A30210:313
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. I bale yr ydŷch chwi in mined?
CRISTION. I ba le yr ydŷch chwi yn myned?
Gwŷr. Hwŷthau a attebasant, in ôl, in ôl, ac ninny a fynem i chwithau hefŷd wneuthur fellu, os ŷw eich einioes na'ch heddwch in werthfawr gennŷch.
Gwŷr. Hwŷthau a attebasant, yn ôl, yn ôl, ac nyni a fynem i chwithau hefŷd wneuthur fellu, os ŷw eich einioes na'ch heddwch yn werthfawr gennŷch.
CRISTION. Pa beth ŷw 'r matter ebŷr Cristion?
Gwŷr. Matter ebŷr nhwŷ, yr oeddem ni in mined fell yr ydŷch chwithau rhŷd y ford ymma; Ac ni a aethom cŷn belled ag a meiddiem; Ac in wîr pe basem in mined ychydig ymhellach, ni allesem ni bŷth ddyfod yd ôl, ac ni chlywsit ti bŷth y newŷddion ymma allan o'n genevau ni.
Gwŷr. Matter ebŷr nhwŷ, yr oeddem ni yn myned fel yr ydŷch chwithau rhŷd y ffordd ymma; Ac ni a aethom cŷn belled ag a meiddiem; Ac yn wîr pe basem yn myned ychydig ymhellach, ni allesem ni bŷth ddyfod yd ôl, ac ni chlywsit ti bŷth y newŷddion ymma allan o'n geneuau ni.