A30210:535
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In bummed, Ac nis gallaf dybied lay, nas gwerth hwnnw ei Grefŷdd am y Bŷd, yr hwn a'i proffesodd hi er mwŷn y Bŷd; Canŷs cŷn siccred ac yr oedd Suddas in amcanu ennill arian trwŷ fôd in grefyddol, mor siccir a gwerthodd ef grefŷdd, ⟨p. 128⟩a'i Feistir am arian; Ac o roddi atteb i'ch cwestiwn, gwŷbyddwch hŷn, pe dywedwn i gyda chwi in y matter ymma, may da a gelid fy ngalw i megis a gellir galw pôb un o honoch chwithieu in Bagan, in Rhagrithiwr, ac in Gythrael, y rhain a bŷdd eu cyflog iddŷnt in ôl eu gweithredoedd.
Yn bumed, Ac nis gallaf dybied llai, nas gwerth hwnnw ei Grefŷdd am y Bŷd, yr hwn a'i proffesodd hi er mwŷn y Bŷd; Canŷs cŷn siccred ac yr oedd Suddas yn amcanu ennill arian trwŷ fôd yn grefyddol, mor siccir a gwerthodd ef grefŷdd, ⟨p. 128⟩a'i Feistir am arian; Ac o roddi atteb i'ch cwestiwn, gwŷbyddwch hŷn, pe dywedwn i gyda chwi yn y matter ymma, mai da a gellid fy ngalw i megis a gellir galw pôb un o honoch chwithieu yn Bagan, yn Rhagrithiwr, ac yn Gythrael, y rhain a bŷdd eu cyflog iddŷnt yn ôl eu gweithredoedd.
Ina hwŷ a safasant in sŷnn, gan lygadrythu y nail ar y llall, Ac nid allent hwŷ roddi atteb in y Bŷd i Gristion ynghŷlch y peth ymma; Gobeithi•• hefŷd a ymfodlonodd in yr hŷn a lefarodd Cristion wrthŷnt: Ac fellu a bu distawrwŷdd mawr in eu plith hwŷ: Ar hŷn Meistir Neilltuol-fwraid a'i gymdeithion a safasant in ôl, fell a gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnŷnt, am eu bôd in chwennychu cael gwared o'u cwmpeini; Ina ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Oni all y gwŷr hŷn sefŷli oflaen barn dynnion, pa fôdd a safant hwŷ oflaen Duw in y farn? Ac os ydŷnt in fudion pan eu teimler gan lestri pride, pa beth a wnant pan geryddir hwŷnt a fflamm•• o dân ysol?
Yna hwŷ a safasant yn sŷnn, gan lygadrythu y naill ar y llall, Ac nid allent hwŷ roddi atteb yn y Bŷd i Gristion ynghŷlch y peth ymma; Gobeithi hefŷd a ymfodlonodd yn yr hŷn a lefarodd Cristion wrthŷnt: Ac fellu a bu distawrwŷdd mawr yn eu plith hwŷ: Ar hŷn Meistir Neilltuol-fwraid a'i gymdeithion a safasant yn ôl, fel a gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnŷnt, am eu bôd yn chwennychu cael gwared o'u cwmpeini; Yna ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Oni all y gwŷr hŷn sefŷli oflaen barn dynnion, pa fôdd a safant hwŷ oflaen Duw yn y farn? Ac os ydŷnt yn fudion pan eu teimler gan lestri pridd, pa beth a wnant pan geryddir hwŷnt a fflamm o dân ysol?