A41353:394
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir in eglur, pa cyn bellhed y mae din in fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll in bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesus Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr in dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr in llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christian jefange. O waith E.F. in y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir yn eglur, pa cyn bellhed y mae dyn yn fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll yn bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesu Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr yn dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr yn llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christion iefange. O waith E.F. yn y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.
Printiedig in Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dross William Ballard, ag i cael ar werth in i siop ef dan lûn y Bibl' in heil'r ûd in Ninas Bristol, 1651Printiedig yn Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dros William Ballard, ag i cael ar werth yn i siop ef dan lûn y Bibl' yn heil'r ûd yn Ninas Bristol, 1651
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Evan. Pe gallech chwi credu in cwbl yno y byddei i chwi in ol eich dymuniad; canys megis y dywaid Luther, Pe gallem ni llwyr ymaflyd, â Christ, yna y byddem in lân oddiwrth pechod; Eithr,1 och gwae, tray byddom ni ymma ar y ddaiar, o ran y gwyddom, ac o ran y credwn, ac in ol hynny nid ydym in derbyn Christ onid o rhann, in ol tystiolaeth Jago yr Apostol union, yr hwn a ddywaid fall hyn, gan osod ei hun hefyd in y cyfrif:2 Mewn lawyer o bethau yr ydym ni bawb in llithro, ⟨p. 235⟩ac y mae Joan y dyscybl caredig ffyddlon in tystiolaethu yr un peth:3 Os dywedwn nad oes ynom bechod yr ydym in ein twyllo ein huwain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Ac in eu hêl hwy y dywaid Luther fall hyn:4 y mae i'r Christian gorph, o ty fewn i aelodau pan, in ol geiriau S. Paul, y mae pechod in aros ac in rhyfela, ac er ni bo ef evog o ryw bechodau cyhoeddus mawrion fall o lofrudd, odineb, lladrad neu'r cyffelib, etto nid yw ef rhydd neu in lan oddiwrth pechodau dirgel, fall annioddef, gwrwgnach in erbyn Duw neu 'r cyffelib, nage yr wyf fi (ebb efe) in clywed ynof fy hunan cybydddod trachwant digter balchder, rhyfyg, ofn marwolaeth, trwmdid, casineb, gwrwgnach, annedifeirwch fall nad yw bossibl i chwi fod in llwyr lan oddiwrth pechod tray byddoch in y bid hyn, etto myfi a warannaf iwch hyn, mae fall y cynnyddoch chwi mewn ffydd felly y cynnyddwch hefydd fwy fwy o nerth i nerth ym mhob ryw ras arall. O herwydd pa ham y dywedodd gwr duwiol,5 cadarnhewch hyn o ras o ffydd a chwi a cadarnhewch y cwbl oll, hid oni bid hyn in wir, o cyrrhaeddwch chwi at mesur mawr o ffydd. ni ffaeliwch chwi o ⟨p. 236⟩feddian nu ar fesur mawr o sancteiddrwydd,6 canys y neb y sy (ebe wr dedwydd arall) iddo y ffydd cadarnaf, ac a cretto helaethaf yr addewid o faddevant, a gollyngdod pechodau, a feddianna (mi ai ddywedaf in hy) ar y calon sancteiddiaf, a'r buchedd glanhaf.