A41643:262
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf a ymddengys, oddiwrth lawn-ddigonolrwydd Aberth Christ ar y Gross, a llawnder yr jawn a wnaethpwyd trwy hynny i gyfiawnder Duw am bechodau 'r holl fŷd. Hyn ei gŷd mae 'r Apostol in ei osod a'r lawr, lle mae in dywedyd, Efe a ddichon in gwbl-jachâu, y rhai sydd in dyfod at Dduw trwyddo ef, Heb. 7.25. Y gair a gyfieithir [in gwbl] sydd helaeth jawn, fell na allwn trwy graffu in goreu, edrych tu hwnt iddo, cymmaint ac in ein meddyliau. Canys bwried dŷn fod ei gyflwr mor anobeithiol ac a allay fôd, a'i bechodau cymmaint ac mor echryston ac a allent fôd, etto mae Christ trwy ei farwolaeth in abl iw gadw ef oddiwrth y Cwbl, hid yr eithaf.
II. Fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf a ymddengys, oddiwrth llawn-ddigonolrwydd Aberth Christ ar y Groes, a llawnder yr iawn a wnaethpwyd trwy hynny i gyfiawnder Duw am bechodau 'r holl fŷd. Hyn ei gŷd mae 'r Apostol yn ei osod a'r lawr, lle mae yn dywedyd, Efe a ddichon yn gwbl-iachâu, y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo ef, Heb. 7.25. Y gair a gyfieithir [yn gwbl] sydd helaeth iawn, fel na allwn trwy graffu yn goreu, edrych tu hwnt iddo, cymmaint ac yn ein meddyliau. Canys bwried dŷn fod ei gyflwr mor anobeithiol ac a allai fôd, a'i bechodau cymmaint ac mor echryston ac a allent fôd, etto mae Christ trwy ei farwolaeth yn abl iw gadw ef oddiwrth y Cwbl, hyd yr eithaf.
Am hynny rhaid yw gosod hyn ar lawr, megis gwirionedd sylfaenol, Fôd Aberth Christ in gyflawn jawn i Gyf•awnder Duw ei dâd am bechodau 'r holl Fŷd, gan ei fod in Aberth Mâb Duw, yr hwn oedd in Dduw cystal ac in ddŷn. Canys hyn sydd in rhoi prîs â gwerth anfeidrol ar ddioddefiadau Christ tros ein prynedigaeth ni, self, eu bôd ⟨p. 60⟩in ufudd-dod ac in ddioddefiadau Mâb Duw, yr hwn oedd in Dduw gogyfvwch a'i Dâd: Ar yr hyn y gelwir gwaed Christ, trwy 'r hwn i'n prynwyd ni, in waed gwerthfawr,