A81315:200
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Da y dywedwch: Canys jawn yw i hwnnw gael bod in flaenor: am ei fod in echrys-haint pennaf o holl anafau yr enaid.
Theol. Da y dywedwch: Canys iawn yw i hwnnw gael bod yn flaenor: am ei fod yn echrys-haint pennaf o holl anafau yr enaid.
Phila. Dangoswch allan or Scrythyrau fod balchder mor anguriol, ac mor athrugar.
Theol. Ffiaidd gan yr Arglwydd bob din uchel-gallon. 1Yr hyn â ddengys in eglur fod duw in gwrthwynebu, ac in casau y beilchion. Ac onid peth ofnadwy dybygwch chwi, i din fod in ffiaidd gan dduw? Ac in yr un bennod y dywed. Balchder sydd in mined o flaen dinistr, 2ac uchelder yspryd o flaen cwymp. Ymma y dengys yr yspryd glân fod balchder in rhagflaenu rhyw ⟨p. 38⟩gwymp tra-mawr, nail ai trwy anair, neu golly ei gymmeriad. Canys Fên wir ddihareb a ddywed: Balchder a gaiff gwymp. A mynych y gwelir, pan fyddo dynionwedi ymgodi uchaf, yna y maent in nessaf i syrthio: Megis wrth siamplau Haman, Nebuchadnezzar, a Herod, y gwelir in eglur. Pan fyddo'r ddueg in chwyddo, y bid y corph mewn mannau eraill in darfod: felly pan fo'r gallon in chwyddedig drwy falchder y bid yr holl din in agos i ddinis•r. Heb law hyn yr yspryd glan a ddywed.3 Yr Arglwydd a ddiareiddia dŷ y beilchion. A Job a ddywed am y cyfryw ddynion. Tân heb ei chwythu ai hyffa hwynt. Mi a dybygwn wrth hyn pe bay ynom gŷmmaint a gwreichionen o râs, y gallai yr ymadroddion erchyll hyn, a ddywaid yr yspryd glan, ein darostwng, a thynnu i lawr ein balchder: in enwedig gan fod yr Scrythyrau in tstiolaethu fod duw in gwrthladd y beilchion, ac in ymosod in bwrpassol iw herbyn: Ac am hynny gwae hwynt-hwy. Canys os duw a ymddyru in eu herbyn, pwy a ddichon ei attal ef? yr hwn a wna beth bynnag a fynno.