A81315:900
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Gadewch i hynny fod, ni ellwch chwi and gwneuthur eich goreu a gadael ar Dduw y llwyddiant oddiwrth y gwaith. Ni ellwch chwi and plannu, a dwfrhau, a rhodded Duw y cynnydd. Chwychwi Gweinidogion y llythyren, ac nid yr yspryd ydych. Bedyddio yr ydych a dwfr, ac nid ar Yspryd Glân. Gan hynny os pregethwch chwi in ddyfal, drwy gynghori, rhybuddio, ac argyoeddi, ar gyoedd, ac in neillduol: gan fwriadu ⟨p. 376⟩drwy bob esampl o fuchedd dda, a cheisio a phob awyddfryd, gofal, a chydwybod wneuthur eich goreu, am a alloch, iw dychwelyd hwynt oddiar eu ffyrdd drygionus; in fy meddwl i yr ydych chwi in ddiangol, ac in rhŷdd ddievog oddiwrthynt, er parhau o honynt hwy in wargaled, ac in wrthnyssig. Oblegit chwi â wyddoch yr hyn a ddywed yr Arglwydd drwy ei Brophwyd: os chwi ai cynghorwch, ac ai rhybuddiwch, yna yr achubwch eich hunain, a'u gwaed hwynt a ofynnir ar eu dwylo eu hunain. Ezec. 33.4, 9.
Phila. Gadewch i hynny fod, ni ellwch chwi ond gwneuthur eich goreu a gadael ar Dduw y llwyddiant oddiwrth y gwaith. Ni ellwch chwi ond plannu, a dwfrhau, a rhodded Duw y cynnydd. Chwychwi Gweinidogion y llythyren, ac nid yr yspryd ydych. Bedyddio yr ydych a dwfr, ac nid ar Yspryd Glân. Gan hynny os pregethwch chwi yn ddyfal, drwy gynghori, rhybuddio, ac argyoeddi, ar gyoedd, ac yn neillduol: gan fwriadu ⟨p. 376⟩drwy bob esampl o fuchedd dda, a cheisio a phob awyddfryd, gofal, a chydwybod wneuthur eich goreu, am a alloch, iw dychwelyd hwynt oddiar eu ffyrdd drygionus; yn fy meddwl i yr ydych chwi yn ddiangol, ac yn rhŷdd ddieuog oddiwrthynt, er parhau o honynt hwy yn wargaled, ac yn wrthnyssig. Oblegit chwi â wyddoch yr hyn a ddywed yr Arglwydd drwy ei Brophwyd: os chwi ai cynghorwch, ac ai rhybuddiwch, yna yr achubwch eich hunain, a'u gwaed hwynt a ofynnir ar eu dwylo eu hunain. Ezec. 33.4, 9.