A81315:942
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Nid gwaeth gennifi am eich gweniaith. Credu i Dduw yr wyfi, a chredu iw air yr wyf. Credu yr wyf yr holl bethau â adroddodd M. Theologus allan or Scrythyrau, gan hynodi i mi y bennod, ar adnod, â pha un gymwysaf i mi gredu, a'i yr Scrythyrau, ynteu eich gweniaith chwi, bernwch eich hunan. Nagê, nagê; yr awrhon gweled yr wyf in eglur in nrych cyfraith Dduw, fod fy helynt i in resynol ac in dosturus. Canys myfi â fûm fyw mewn pechod, ac anwybodaeth holl ddyddiau fy enioes, in llwyr anghrefyddol, ac heb wîr wybodaeth o Dduw. Nid wyf fi y Cyfryw ŵr ac yr ydych chwi, ac eraill in tybied fy môd: Oblegit er byw o honof in ônest oddi-allan yngolwg ⟨p. 421⟩y bid, etto oddifewn ni bûm i in byw felly tuag at Dduw.
Asune. Nid gwaeth gennifi am eich gweniaith. Credu i Dduw yr wyfi, a chredu iw air yr wyf. Credu yr wyf yr holl bethau â adroddodd M. Theologus allan or Scrythyrau, gan hynodi i mi y bennod, ar adnod, â pha vn gymwysaf i mi gredu, a'i yr Scrythyrau, ynteu eich gweniaith chwi, bernwch eich hunan. Nagê, nagê; yr awrhon gweled yr wyf yn eglur yn nrych cyfraith Dduw, fod fy helynt i yn resynol ac yn dosturus. Canys myfi â fûm fyw mewn pechod, ac anwybodaeth holl ddyddiau fy enioes, yn llwyr anghrefyddol, ac heb wîr wybodaeth o Dduw. Nid wyf fi y Cyfryw ŵr ac yr ydych chwi, ac eraill yn tybied fy môd: Oblegit er byw o honof yn ônest oddi-allan yngolwg ⟨p. 421⟩y byd, etto oddifewn ni bûm i yn byw felly tuag at Dduw.
Antil. Twsh, twsh, mi â welaf yr awrhon eich bod mewn rhyw synfeddyliau trist. Os deuwch adref gyd am fi, mi â fedraf roi i chwi feddiginiaeth odidog: Canys y mae gennifi lawyer o lyfrau digrif, a difyrr: y rhai pe clywech eu darllain, a dynnai in y fan y synfed dyliau hyn o'ch pen. Nid amgen; Chwedlau Arthur: Cerdd Taliesin: daroganeu Merddin; Cywyddau Dafydd ap Gwilim: Araith Zion Tudr, a chant o garolau merched: A llyfrau Saesonec digrif, a brintiwyd ganwaith; self Befys o Hampton, a Gei o Warwic: a lawyer o chwedlau digrif.