A81315:955
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Efe a ddychwel, ac a drugarha wrthym ac a ddarostwng ein anwiredd, 1ac a deifl ein holl bechodau i ddyfnderoedd y mor. Drachefn y dywed drwy'r Prophwyd Isaiah: 2Myfi, myfi yw'r hwn a ddilea dy gam-weddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau. Ac etto in garediccach y dywed wrthym drwy'r Prophwyd Jeremiah: 3Dychwel attaf, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnat, canys trugarog ydwyfi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid in drogywydd. Ac eilchwel drwy'r Prophwyd Hosea y dywed:4 Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim, canys Duw ydwyfi, ac nid din. ⟨p. 427⟩Byddwch lawen gan hynny, ymgyssurwch ar addewidion hyn: y mae i chwi achos i fod in llawen, gan weithio o Dduw ynoch anfodlonrhwydd, a galar am eich pechodau, yr hyn sydd argoel hynod, na wna eich pechodau i chwi bight ddim niwed. Canys pechodau or blaen ni allant i ni niwed os byddwn anfodlon i bechodau presennol. Chwi aethoch in gâs gennych eich pechodau, galaru yr ydych tan eu baich, am hynny dedwydd ydych. Canys gwyn eu bid y rhai galarus: paham gan hynny y byddwch chwi mor drift, ac mor brudd: Cofiwch yr hyn â ddywed S. Joan, Os pecha neb, 5y mae i ni ddadleu-wr gyd a'r Tad Jesus Grist y cyfiawn, ac efe yw yr aberth tros ein pechodau. S. Paul â ddywed:6 fod Jesus Grist wedi ei osod in jawn trwy ffydd in ei waed ef. 7Drachefn yr Yspryd Glân â ddywed: Efe a ddichon hefyd in gwbl jachau y rhai trwyddo ef sy'n dyfod at Dduw, am ei fod efe in byw bob amser i eiriol trostynt hwy. Yr Apostol a ddywed:8 Yr hwn a ddarfu i Dduw ei wneuthur in ddoethineb i ni, ac in gyfiawnder, ac in sancteiddrwydd, ac in ymwared. Deliwch sulw ar yr hyn â ddywed, y cwbl sydd i ni, y cwbl iw eglwys ac i bob aelod o'i eglwys, ac am hynny i chwi. Christ a wnaed gan Dduw in gyfiawnder, sancteiddrwydd, ac ymwared i chwi. Eich cyfryng-wr chwi yw Christ, a'ch Arch-offeiriad, ac