B05830:340
[Y cywir ddychwelwr.]
London. : ... to be sold by Thomas Brewster ..., 1657
No title page in the transcription: set from the catalogue record.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. In bedwerydd, oblegid ei hyf-ryfig, drwy ba ûn y maent hwy in croppian ac in ceisio ymlusco iw cadw ei hunain, drwy y rhith honno, o fydd sudd ganthynt in ei golwg ei hunain, pan welont hwy ⟨p. 213⟩'r annigonedd fudd mewn dyledswyddau, anheilyngdod sudd ynddynt ei hunainr i gael i hachub.
4. Yn bedwerydd, oblegid ei hyf-ryfig, drwy ba ûn y maent hwy yn croppian ac yn ceisio ymlusco iw cadw ei hunain, drwy y rhith honno, o fydd sudd ganthynt yn ei golwg ei hunain, pan welont hwy ⟨p. 213⟩'r annigonedd fudd mewn dyledswyddau, anheilyngdod sudd ynddynt ei hunainr i gael i hachub.
Myfi a ddechrevaf ar yr achos, neu y rheswm cyntaf ac y ddangosaf y ford gyntaf pa fodd y mae dynion in ei distrywio ei hunain; y môdd ydiw hyn, ni adwaenant moi trueni, na 'r cyflwr melldigedig colledig ofnadwy hwnnw ymha ûn y maent in aros, and tybied, a dywedyd, y diangant hwy in gystal, ac eraill, ac am hynny os cais ûn ewyllysiwr da ei perswadio nhwy i ddyfod allan o hono, a dangos iddynt y perigl sudd o aros in y faith-gyflwr, ei hatteb, hwy a fydd; Rwyfi in deysyf arnoch chwi gadw eich anadl i oeri eich pots, safed pôb llestr ar ei waelod ei hûn, gadewch rhyngofi, rwyfi in gobeithio fôd gennif; enaid iw gadw in gystal a chwithau, ac a fyddaf mor ofalus am dano ac a fyddwch neu a ellw•h chwithau fôd, nid rhaid i chwi mor atteb dross fy enaid i, ŷr wyfi in ⟨p. 214⟩gobeithio y gwna fi in gystal ar Sancteiddiolaf o honoch chwi oll, yr ûn mod os y gweinidog a ddywaid iddynt hwy, ei bay hid adref, nhwy ânr ymmaith ai calonnau in lawn ac in barod i lefain in erbyn y gŵr, ai tafodau in chwerwon in erbyn y ddysgeidiaeth, ar gwirionedd, Duw a fo trugarog wrthym ni, os yw hyn oll in wîr, dymma athrawiaeth dôst, digon er gyrrw dŷn oi gôf, a pheri i ni anobeithio, fell hyn nid ydynt in adnabod ei trueni, ac heb ei adnabod Creaduriaid colledig ydynt gwedi ei hevog-farnu dan dragwyddol ddigofaint Duw, nid ydynt hwy ûn amser in ceisio, in gweddio, in ymdrechu, nag in arfer y moddion drwy ba ray y gallent ddyfod allan, oi cyfliwr gresynol, ac o eisiau hynny in darfod am danynt ynddo ac heb ystyried nag adnabod ei trueni un amser hid oni ddeffrônt hwy a flammau tân uffern o amgylch ei clustiau, mae lawyer o honynt a