B05830:395
[Y cywir ddychwelwr.]
London. : ... to be sold by Thomas Brewster ..., 1657
No title page in the transcription: set from the catalogue record.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In chweched, delw-addolioth y ddealltwrieth; drwy ban y mae 'r meddwl in gosod i fynu, ac in plygu i lawr, i gau ddelw o râs, hynny ydiw, y meddwl in bôd in anwybodus o uchder a godidawgrwydd gwîr râs, sydd in cymmeryd cipp o olwg arno, ac felly in ⟨p. 243⟩dychymygu ac in llunio iddo ei hunan, y fâth fesur o gyffredin ras i fod in wîr râs, yr hwn ar enaid gwedi ymgyrredd iddo in esmwyth, mae efe in tybied i fôd ef ef hûn mewn cyflwr grâs, a thrwy hynny mae efe in ei dwylly ei hûn in resynol, Rl uf. 10.3. ac mae 'r meddwl in dyfod i osod i fynu ei ddelw ei Lûn o ras fell hyn.
Yn chweched, delw-addolioth y ddealltwrieth; drwy ba un y mae 'r meddwl yn gosod i fynu, ac yn plygu i lawr, i gau ddelw o râs, hynny ydiw, y meddwl yn bôd yn anwybodus o uchder a godidawgrwydd gwîr râs, sydd yn cymmeryd cipp o olwg arno, ac felly yn ⟨p. 243⟩dychymygu ac yn llunio iddo ei hunan, y fâth fesur o gyffredin ras i fod yn wîr râs, yr hwn ar enaid gwedi ymgyrredd iddo yn esmwyth, mae efe yn tybied i fôd ef ef hûn mewn cyflwr grâs, a thrwy hynny mae efe yn ei dwylly ei hûn yn resynol, Rl uf. 10.3. ac mae 'r meddwl yn dyfod i osod i fynu ei ddelw ei Lûn o ras fel hyn.
In gyntaf, yr ydis in bygwth, ac in cynllwyn y meddwl a chythryblus ofn poenau uffern, y g ydwybod in dywedyd ddarfod iddo y ceiff ef farw, ac angeu in dywedyd iddo y cyfwrdd ac ef ar fyrder; ac os cymerir ef ymaith in ei bechodau, yna y daw did dû o gyfrif am 'yr holl ddirgel gastiau, did o waedd, dychryn, barn, a thân, lle nid all ûn creadur ei gyssuro ef, oddiymma fe ddywaid Arglwydd cadw fi rhag y trueni ymma, mae efe in gobeichio na fydd cynddrwg gidag efe, and mae arno ofn, y bid.
Yn gyntaf, yr ydis yn bygwth, ac yn cynllwyn y meddwl a chythryblus ofn poenau uffern, y g ydwybod yn dywedyd ddarfod iddo y ceiff ef farw, ac angeu yn dywedyd iddo y cyfwrdd ac ef ar fyrder; ac os cymerir ef ymaith yn ei bechodau, yna y daw dydd dû o gyfrif am 'yr holl ddirgel gastiau, dydd o waedd, dychryn, barn, a thân, lle nid all ûn creadur ei gyssuro ef, oddiymma fe ddywaid Arglwydd cadw fi rhag y trueni ymma, mae efe yn gobeichio na fydd cynddrwg gidag efe, ond mae arno ofn, y bydd.