B10304:118
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I‘n Duw ni bo‘r diolch yr hwn piau'r achos hyn, na ddamweiniodd erioed etto na therfysg, na Thrauturiaeth, in yr un o‘r Teyrnasoedd, na'r Arglwyddiaetheu, na llywodraetheu, a dderbyniasant yr Efengyl. Ni ddarfu i ni ddinistr un deyrnas nag anrheithio Arglwyddiaeth neb, na gwneuthyr cynnwrf mewn llywodraeth gwlad in y bid. Aros in eu haddas radd au hen oruchafieth, y mae Brenhinoedd Lloegr eyn gwlad ni, Brenhinoedd Denmark, Brenhinoedd Swetia, y Duciaid o Saxonia, y‘r Jeirll Palatin, y Marquessiaid o Brandenburg, y Lansgraviaid o Hessia, Llywodraetheu cyffredin y Swisseriaid ar Rhetiaid, ar dinassoedd rhyddion a elwir Argentina, Basilea, Francfordia, Ulma, Augusta, Norinberga; y rhain y gyd sy in yr un cymeriad a'r awdurdod yr oeddynt ynddo o‘r blaen, Neu‘n rhagorach, gwell yw eu cyflwr nhwy herwydd bod eu pobl in ufuddach drwy rinwedd yr Efengyl.
I‘n Duw ni bo‘r diolch yr hwn piau'r achos hyn, na ddamweiniodd erioed etto na therfysg, na Thrauturiaeth, yn yr vn o‘r Teyrnasoedd, na'r Arglwyddiaetheu, na llywodraetheu, a dderbyniasant yr Efengyl. Ni ddarfu i ni ddinistr vn deyrnas nag anrheithio Arglwyddiaeth neb, na gwneuthyr cynnwrf mewn llywodraeth gwlad yn y byd. Aros yn eu haddas radd au hen oruchafieth, y mae Brenhinoedd Lloegr eyn gwlad ni, Brenhinoedd Denmark, Brenhinoedd Swetia, y Duciaid o Saxonia, y‘r Ieirll Palatin, y Marquessiaid o Brandeburgh, y Lansgrauiaid o Hessia, Llywodraetheu cyffredin y Swisseriaid ar Rhetiaid, ar dinassoedd rhyddion a elwir Argentina, Basilea, Francfordia, Vlma, Augusta, Norinberga; y rhain y gyd sy yn yr vn cymeriad a'r awdurdod yr oeddynt ynddo o‘r blaen, Neu‘n rhagorach, gwell yw eu cyflwr nhwy herwydd bod eu pobl yn vfuddach drwy rinwedd yr Efengyl.
Elont, y doiwg, i‘r manneu hynny lle yr ydis drwy ddayoni Duw in pregethu'r Efengyl: ym-mha le mae mwy braint a llae trowsedd y •wysogion? ym-mha fan rydis in rhoi mwy o anrhydedd i'r Pennaeth? Pale mae‘r bobl in lay en hafrol? Ag ym-mha fan y mae llywodraeth y cyffredin ar Eglwys in howddgarach?
Elont, y doiwg, i‘r manneu hynny lle yr ydis drwy ddayoni Duw yn pregethu'r Efengyl: ym-mha le mae mwy braint a llae trowsedd y wysogion? ym-mha fan rydis yn rhoi mwy o anrhydedd i'r Pennaeth? Pa le mae‘r bobl yn llai en hafrol? Ag ym-mha fan y mae llywodraeth y cyffredin ar Eglwys yn howddgarach?