B10304:244
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac eto ir hynn cyd bo achos i ammau lawyer o'stori Lucius, am hyn i dim ni in y geisio in bennaf in y rhysymmay hynn, ni ddawr pan or 'storiay uchot a grettoch: cans ymhob un yddym in gwelet cael or Brytaniait Crefydd Christ un ddilwgr ac in perffaith. Canys (m•l i doydais uchot) •ach ydoedd dysceidiaeth Rufain ar hynny o amser, a' chytun ar scrythyr ⟨p. 214⟩'lan, ac Evangel Christ. Am hynny, gwir grefydd Christ, a gair Duw a hardday y Brytani•it gynt, ac a ddygay uddynt ragorfraint a goruchelder. Ac os ammay neb f•d hynn o rinwedd ar wir grefydd Christ a' gair Duw: mi a atteba iddo trwy audurtot yr yscrythr 'lan.1 Mal hynn i dowaid Moses wrth plant Israel, Welwch mi a ddiscais i chwi ddeddfay a' Chryfreithau megis i gorchmynawd Duw i minay, mal i bo i chwi i cadw hwynt in y tir i ddych in mynet yw'orescyn. Cedwch hwynt am hynn a gwnewch. Canys hynn yw ych doythineb ach dial yngolwc y pobloedd gan glowet am y deddfay hynn oll, ac a ddoydant, Y bobl yma sydd unic synhwyrol, a' dyallas, a chen•tlaeth fawr. Canys pa nasiwn sy cym cint a rhain i daw y dywiae cyn agoset attunt, ac i may yr Arglwydd eyn Duw ni in agos atom ymbob peth ar i galwom attaw amdano. A' pha nasiwn sy cymaint, a bod iddi ddeddfay a chyfreithay cyn gyfiawnet ac ydynt yr oll gyfreithay hynn i ddwy in i gosot gaer dy fron di heddiw? In y geiriae hyn y mae 'n hawdd gwelet pa ragorfraint a goruchelder a ddwg cyfraith Dduw ir cenetl•ethay derbynio, ac ai catwo. Y Brytaniait a dderbyniasont attunt gyfraith Dduw, gwir crefydd ⟨p. 215⟩Christ, a'r Efengel fendigedic, a' hynny in cyfagos at amser Christ ay Apostolion ymlaen yr ynysoedd oll, ac ae cadwasont in bur ac in ddilwgr in her o amser in •lew ac in ffynnedic. Canys cyd byddai terfysc drablin ac ymlit creulon ar y Chrystynogion in amser Dioclesianus yr Emerodr, rhwn a gymhellodd lawyer Christian ymhob gwlad i wadu'r Chrystynogaeth. Ir gallu or Emerodr trwy waith i gaptayn Maximianus Herculeus wneuthyr lawyer or Brytaniait in verthyron in gweryl Christ, a' distrowio 'r eglwyss, a' llosci'r Biblae: ni allodd ef ir hynny na diffoddi na gwyraw i ffydd hwy. Gwaed y merthyron, in wyr, in wraged, in veibion, in verchet, in wyr-llen in llygion (yr hey in dorfoedd o offrymmae eu cyrph ir tan ir ymddifin y Chrystynogaeth) a 'orchfygai greulonedd y dygasoc paganiait, ac a gatway'r ffydd in gyfan, ac ae hennynnae in eglurach.