B10304:246
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Croeseu a'delway, crio ar y saint meirw, pende•igeth Escop Ruvain, dwr a' halen Twynedic, a chyfryw offered ⟨p. 218⟩anhebic i ysprydoldep Evengil Christ a gymyscai Awstin a'r Chrystynogaeth a osodai ef ymhlith y Sayson. Chwith oedd can y Brytaniait welet y cymysciat, ar difwyniant hynny ar grefydd Christ. Ac am hynny ar ol ir Sayson dderbyn cyfryw amhur Chrystynogaeth a hynn attunt, nit oedd teilwng can y Britaniait gyfarch gwell ir un o honynt, cyd bay fodlon centhynt or blaen tra oeddent paganiait, cydbrynnu a gwerthu, cyt dyddio, cytfwytta ac yfet, a chydhelyntio ac wynt. Ac nyd ebb awdurtot yr yscrythur lan i gwnai'r Brytataniait hynny: canys mal hynn i dowait Pawl Apostol. 1. Corinth 5. Obydd neb elwir in frawd in puteiniwr, neu cybydd, neu addolwr delway, neu 'oganwr: neu feddw, neu traws, na chytfwyttewch unwaith gida'r cyfryw. Am hynn i galwodd Awstin attaw saith* Escop y Brytaniait, ac eraill oi gwyr dyscedic ay crefyddwyr i geisio centhynt dderbyn atunt yr un drefn ar Chrystynogaeth ac a ddygasai ef ir Sayson, a chydnabot pendevigeth Escop Rhufain goruwch oll Escopion y bit, ac ymddarostwng yddaw. Gwrthod in llwyr o Escopion y Brytaniait hwy ae dyscedic ⟨p. 219⟩hynny gytuno ac ef. Ac am Escop Rufain eu hattep oedd, na wyddentwy achos i ymddarostwng i Escop in y bit onit i Archescop Caerlleon ar wysc. In hyn attep a wnai Awstin in orddic. Ac am hyny mynet a wnaeth i gynmell, ac i annog Ethelbert Brenhin Cent, a' thrwyddaw yntau Elffrit Brenhin Northwmberland,2 yr hay a ddoythant in ddiannot am ben y Brytaniait, ac a laddasont vil a deucaut o grefyddwyr Bangor a dyscedigion y Brytaniait, rhain mal i dowait rhai or historiae a ddevent in ddiarfay in bennoeth droednoeth i ddisyfu heddwch can y ddau Urenin. Ar ol hynn, o amser bigilidd i gwanhaywyt y Brytaniait, ac y duc min y cleddyf hwynt or diwedd i gytuno a ffydd y Sayson, ac i ymadaw a phuredd a' chowirdeb y cynefyn Chrystynogaeth eu hunain. Ti a glowaist hid in hyn mod i buost anrhydeddus gynt o ran crefydd Christ, ar ffydd catholic. Weithian i mynegaf yt yr iselder, ar gostyngiat a ddigwyddodd ir Brytaniait. O hyn allan leilai fu ey rhwysc, a mwyfwy eu gorthrymder ay caethiwet ymhob helhynt bydol.