B10304:259
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y trydydd ymad•od cyffredinol y mysc y Cymru a dynnwyt or ys••ythyr 'lan yw hwn,1 Y mad rhad. nid oes yma ⟨p. 239⟩onid try gair byr o un sulla bob gair, etto maynt in cynhwyso lawyer o synwyr ac o addisc sprydol. yr hyn i mae 'r trydydd pen. ar pedwerydd o epystl Pawl at y Ruveiniait, in benna in i ddyscu, a lawyer man or scrythur 'lan heb law hynny. Yr un addysc a gei di in y geiriau hynn Y Map rhad oi chwilio ai gorofyn: Map rhad i gelwir Christ Jesus am i vod ef trwy'r pridwerth a wnaeth ef trosom ni ar pren Cross, in purcasu i ni trugaredd y Tad or nef i faddau i ni eyn pechodae in rhad heb i ni ryglyddu dim, heb na thal na gwerth and in rhad. Nid am eyn gweithredoedd ni i cyfiownir ni gar bron Duw,2 eythyr in rhad trwy trugaredd Duw a purcasodd y map rhad i ni. Ffydd a dycia i ni gan hynny gar bron Duw: canys ffydd a gymer afael, ac a dderbyn attei, y trugaredd a purcasodd y Map rhad i ni. Am hynn i dowait Pawl Abostol,3 Barnu i dim i cyfiownir din trwy ffydd heb weithredoedd y gyfraith. Nid oes din ac ni bu irioed a ddichin umddiriait yw weithredoedd y hun. Canys llygredic yw nature din ac amperffaith yw i weithredoedd je mal i dowait y prophwyt Isaiah mal y cadach budyr ydyntwy gar bron4 ⟨p. 240⟩Duw. Ac am hynny i dowait Christ, Pan ddarffo ywch wneuchyr cwbl a 'orchymynt ywch, doydwch ych bod in wasnaethwyr amproffidiol. Luc. 17. Ffydd a dderbyn drugaredd Duw trwy Christ Jesus in cyfiowni ni gar bron Duw, ac nid gweithredoedd. Ir hynny lle bo ffydd, e fydd gweithredoedd: canys ffrwyth ffydd yw gweithredoedd. O blegit mal na bid tan heb wres: velly ni bid ffydd heb weithredoedd da. Eithr er hynny y gyt llwyr ith twyllwyti os witty in tybait i dichin dy weithredoedd dy gyfiowni di gar bron Duw: ymwrthot ath weithredoedd, cydnebydd ath amhuredd, ath anallu, ymddyro in gwbl i drugared Dduw. Cyfadde in dy golon a' chred in gry, in ffrwythlon, ac in ddiammau: hyn yw cyrch a chloediggeth yr scrythyr 'lan trwyddi: purcasu o Christ i ti faddenaint dy bechodau in rhad. Ac am hynny gwir yw gair y Cymro a dynnodd ef gynt or scrythyr dan, pan alwodd ef Christ, Y Mab rhad. Nid oedd rhaid i ti arf well in dy law i ymladd in erbyn Pelagius, ar gaulith ar heresy […] osodes ef allan ynghylch purred nature din oi enedigaeth, a' gallu din i ymgyfiowni gar bron Duw,