B10304:247
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac am faterion sprydol, wedi yddynt cytcordio ar Sayson mewn ⟨p. 220⟩crefydd a gau ffydd, cytsuddo gidac hwynt ddwfnach ddwsnach a wnaythont o oes bigilidd mewn pob gauddywiaeth, delw-addolaeth, arddigonedd, ofergoel, a' gauffydd, Ac erbyn attunt dychmygion, traythiaday, a gosodigaythay dynion, in lle cyfraith Dduw, ac Evengil Jesus Christ: ceremoniae aflafar ac amryw vunydiae hudolaidd, in lle llafarwch pregethu gair Duw. Self fall hynn i digwyddawdd cymyscu Chrystynogaeth y Brytaniat, ac amhuredd crefydd y Sayson. In nesa at hynn galw ith cof y gollet a gavas y Cymru am eu llyfray beth bynac faint, ay celfyddyt, ay historiae, ay Achay, ay Scrythur 'lan: is llwyr ir anrheithiwyt oll Cymru o honynt. Canys pan 'oystynget Cymru tan goron Loygr trwy nerth arfeu, diammay ddistrowio lawyer oy llyfray hwynt in hynny o trin. Ac or hey a ddihanghasont, medd y Beirdd, Pendifigion Cymru a ddygwyt i fot in carcharorion t agowydd ir Twr gwynn a gasclasont o honynt cymaynt ac allasont yw dwyn gidac hwynt, ac yw darllain ir diddanwch uddynt in i carchar, a rhein or diwedd a loscwyt in y Twr gwynn: am hynny i canodd y prydydd, Y sceler oedd i Scolan, fwrwr twrr ⟨p. 221⟩llyfray ir tan. Pa destriw ar lyfray a gavas Cymru o ddiwrth rhyfel Owain Glyndwr, hawdd yw i dial wrth y trefi, Escoptae, manochlogydd, ar tem'leu a loscwyt trwy oll Cymru y pryt hynny. Dyma gyflwr gresynawl ar pobl, i dinoithi a' dwyn eu goleunioi canthynt, ae gadael megis in ddeillion iymdaith ac i siwrneio trwy wylltineb y bit hwnn. Val hynn i digwyddawdd na bu nasiwn irioed mor anafus am lyfray a' gwybodaeth in ey jaith i hun a'r Cymru. Mawr ywr goleuni a doeth ir bit, a' mawr i cynyddodd ac i chwanegawdd pob celfyddyt, a' gwybodaeth sprytawl, a corphorawl, ymhob jaith ymhop gwlad, ac ymhop teyrnas ir pen ddychmycwyt celfyddyt Printio. Eithr mor ddiystyr fydday jaith y Cymro, a chin bellet ir esceulusit, ac na allodd y print ddwyn ffrwyth in y bit yw gyfri ir Cymro in i jaith i hun hid in hyn o did neu ychydic cyn hyn i gosodes William Salsburi yr Efegylon a'r epystelay, a arferit in yr Eglwys tros y flwydyn, in Gymraeg in print, a'* Sir John Prys yntay y Padr, y Credo, a'r x. Gorchymyn. Gwrandaw etto y sy cenyf ith coffau amdanaw. Wrth ystyriaeth cwrs crefydd ⟨p. 222⟩