B10304:260
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
neu in erbyn Athraweth llygredic Eglwys Rufain, a'r yscol awdurion, in dyscu i din ymgodi or pechawt a wnaeth ef wedi bedydd, trwy benyt, self dolur calon, cyffes genau, a' thaledigaeth gweithred, (nid wyfi in gwrthot yr un or try hyn in i jawn dial, and in i dial hwyntwy) i wrthladd yr hain oll nid rhaid arf well nor disc a gynhwysir in y byr eiriau hynn, Y Mab rhad, ac in yr scrythyr 'lan lle i cafas y geiriau hyn i dechrevad ai tadogaeth. Mae cenyf lawyer heb law hynn o ddiharebion ac ymadroddion arferedig ymysc y Cymru, sy ae dechrevad, ae hanes o 'air Duw. Ac am hynny in dystionwod yr scrythyr lan, a' gair Duw in gyffredinol gynt gidar Cymru mal i mae 'r hain. Ni *lafur ni weddia, nid teiwng yddo y fara. Eglwys pawb in i gallon. Cyn *wiried ar Evangel. *Pan nad rryvedd na thyf post aur trwy nen ty yr enwir? Drwg i ceidw diawl y was. I Dduw i diolchwn gael bwyt a gallu i fwytta. Onid pechot gan Ddyw y mi, &c. Rhad Duw ar y gwaith, ac eraill or faith hynn. Brys sy arnafi i find ir pen rrac sevrdanu 'r darlleydd, ac am hyny nid wyf in tynnu ⟨p. 242⟩o hid, ac in egori yr hain megis i gwneuthym am y rhai uchot. Llyfr braisc a ellit i wneuthyr o honyn, a' roe wybodaeth a' goleuni, am hen ffydd y Britaniait, ac am pob pwnc ac y sy heddiw mewn ymryson rhwng y Rhufenyddion ar Evangelyddion. Hefyt, nyd cwbl anghysson uyddei gymeryd yma destolaeth or Enwe arveredic cynt ar y Cymbru, megis Abraham, Escop Menew: Adda Uras, un or Beirdd: Aaron, un o bennaethe gwlad Vorgan: Asaph, Escop llan Elwy, 590. Daniel, yr Escop cyntaf ym Bangor, 550. David neu Ddewi, yr Escop cyntaf ym Menew. 640. Jaco ap Idwal: Joseph Escop Menew: Matusaleh: Samuel Beulan, offeirat dyscedic, 640. Samson, y chwechet Archescop ar higen ar dywethaf ym-Menew, 560. Sele: Susanna, a'r cyfryw eraill, yr rain y geffir in uynech in llyfru Achey a' Chronic, hen Recordeu, Registreu, a' Siartereu. A' mi vedwn ddangos ychwi mewn carp o Siarter hen ddyhenydd, y sydd in perthyn im Escopawt i yma Venew, vot un ai enw Noah, in Urenhin Dyvet.4 Ac na bei and wrth hynn y mae in ddigon credadwy gan pwy pynac a wyr yr arver heddyw ar ⟨p. 243⟩