B10304:261
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O blegit yr un mod oedd ey defot hwy in y hamser a'r enwy eu plant ar henwea a ddarlleynt in yr yscrythur 'lan, ac y mae 'r bobloedd in awr lle mae'r Scrythur 'lan wedy ei thynnu in y hiaith y hunain. May cenyfi hefyd darn o waith Taliessin ben beirdd, a ddychin goffay iti beth or hen fyd a fu gynt: ac efe oedd in amser Arthur, ac in amser Maylgwyn Gwynedd wedi Arthur rhwn ydoedd frenin Britain pan ydoedd oed Christ 500. val hyn i dowait ef. Gwaer effeirtait bit, nis *angreifftia gwyt, ac ni phregetha. Gwae ni cheidw eu *gail, ac ef in figail, ac nis areilia. Gwae ni cheiddw i ddefait, rhac bleiddie Rhufeiniait, ai ffon glwpa. Ir nad wyfi in amcanu dosparth y penillion hynn ae cyfflybu hwynt at 'air Duw in fanylaidd mal i gellit in hawdd, etto mi a nota i ti ddeubeth ynthynt wy. Un peth yw hyn: ymarn Taliessin, swydd yr efferiat yw ceryddu pechot a phregethu. In sicir velly i dowait ur scrythyr 'lan hefyd. Darllain y lviii pen o Isaiah yr Prophwyt, a darllain yr xvi. pen o Evangel ⟨p. 244⟩Marc lle i dowait Christ wrth i ddyscyblon, a' thrwyddynt wy wrth effeiriait y bid. Ewch ir oll fyd a' phregethwch yr Evangel i pob creadur, ac velly rhagoch. Ni dowot Christ wrthynt, Ewch ac aberthwch tros y byw ar mairw. Christ i hun a aberthodd i gorph ar pren cross tros pechodau 'r bit,3 a' thrwy un unic offrwm ac aberth i perffeithiodd ef in dragwyddol yr hay a santeiddier: ny ellir i aberthu ef drachefn: o bleit yno i byddae raid iddo ef farw drachefn. Ac am hynny mae effeiriait Ruvainol in espelio Christ am i foliant ae 'ogoniant, pan gymront wy arnynt aberthu tros y byw ar mairw. Yr yscrythyr 'lan sin gwahardd yddynt wy hyn, ac in gorchymyn yddynt wy pregethu. Hwynt with a wnant yr hyn a waharddwyt yddynt, ac nid ymyrant ar hyn a orchmynwyt yddynt. Yr ail peth a nottafi i ti in y pennillay uchot yw hyn, nad yrowran gynta i bu gwyn in erbyn traha, a' balchder Ruvain. Canys mae Taliesin in doydet in i amser ef, Gwae ni cheidw i ddefait rhac bleiddiau Ruveniait. And mi, mi wn er hyn y gyd o dravel beth y ddywet ray rryngthyn ac y hunain, a' pha beth and dywedyt mae ⟨p. 245⟩newydd yw pop peth a draethir heddyw ynghylch y ffydd neu'r crefydd, ac nad oedd dim ymyd or cyfryw son y to aeth heibio. Weal ynteu gwrandawet y rreini pa beth y ddywait un or hen Veirdd Cymbru (os hen bot ynghylch mil o ulynyddeu) nyd amgen Merddin Wilt in atep ei chwaer Gwenddydd, yr hon a syganei wrtho ef hyn,