Section
pp. 50–5320 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwestiwn 2. Ym mhâ le y mae ein rhan ni o'r Cyfammod a'n Dyled-swydd wedi ei Egluro in helaethach?
Cwestiwn 2. Ym mhâ le y mae ein rhan ni o'r Cyfammod a'n Dyled-swydd wedi ei Egluro yn helaethach?
Atteb. In y Gredo megis swm y Pethau sydd iw credu. 2. Ing-weddi 'r Arglwydd ⟨p. 51⟩megis swm y pethau sydd iw Dymuno. 3. Ac in y Dêg Gorchymyn (fell y rhoddwyd hwy gan Grist, ynghyd ag efangylaidd eglurhaad o honynt) megis swm y pethau sydd i ni iw gwneuthur au harfer. Ac Dymma hwynt-hwy in canlyn.
Atteb. Yn y Gredo megis swm y Pethau sydd iw credu. 2. Yng-weddi 'r Arglwydd ⟨p. 51⟩megis swm y pethau sydd iw Dymuno. 3. Ac yn y Dêg Gorchymyn (fel y rhoddwyd hwy gan Grist, ynghyd ag efangylaidd eglurhaad o honynt) megis swm y pethau sydd i ni iw gwneuthur au harfer. Ac Dymma hwynt-hwy yn canlyn.
Y Credo.
Credaf in Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdwr nêf a daiar: Ac in Jesus Grist ei un mâb ef, ein Harglwydd ni. Yr hwn a gaed trwy yr yspryd Glàn, a aned o Fair forwyn: A ddioddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwydd, a ddescynnod i uffern, y trydydd did y cyfododd o feirw; a escynnod ir Nefoedd, ac y mae in eistedd ar ddeheulaw Dduw Dâd oll gyfoethawg, oddi-yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf in yr yspryd Glàn, yr Eglwys làn Gatholic, cymmun y Saint, maddevant pechodau, cyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragwyddol.