Hid in hyn y dangoswyd yr amryw dull ar hanfod in sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodoliaethau.Hyd yn hyn y dangoswyd yr amryw ddull ar hanfod yn sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodoliaethau.
pp. 10–1416 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Hid in hyn y dangoswyd yr amryw dull ar hanfod in sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodoliaethau.
Hyd yn hyn y dangoswyd yr amryw ddull ar hanfod yn sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodoliaethau.
Priodoliaethau ydynt fâth ar ddarluniadau o sylwedd y Duwdod, â adroddir yngair Duw, in ôl gwendid ein dealltwriaeth ni, er mwyn ein cymmorth i deal in haws naturiaeth sylwedd Duw, ac iw ddirnad oddiwrth bôb sylweddau eraill.
PRiodoliaethau ydynt fâth ar ddarluniadau o sylwedd y Duwdod, â adroddir yngair Duw, yn ôl gwendid ein dealltwriaeth ni, er mwyn ein cymmorth i ddeall yn haws naturiaeth sylwedd Duw, ac iw ddirnad oddiwrth bôb sylweddau eraill.