Ein Tâd yr hwn wit in y nefoedd, &c.Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
pp. 22–3842 passagespart 2 of 2
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac lle mae Eglwys Rhufain in dyscu ir cyfryw ray ammeu eu mabwysiad, y mae hi in hynny mewn amryfusedd. Canys pa wed a geill din mewn gwirionedd alw Duw in Dâd, pan yw in ammeu ei fod in blentyn i Dduw. Tosturus yw gweddi yr hwn a alwo Duw in Dad, ac a amhevo ei fod ef in Dâd iddo. Gwir yw y cyfyd in fynych ammhevon in y rhai mwyaf grassol, eithr fe ddyle y cyfryw ray ymrysson in eu herbyn, a gochelyd rhoddi lleiddynt, self, tra fônt in rhodio gyd â Duw mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd. And medd y Papistiaid, bod in hyderus ac in siccr o drugaredd Duw sydd ymchwydd, a rhyfyg mawr:
Ac lle mae Eglwys Rhufain yn dyscu ir cyfryw rai ammeu eu mabwysiad, y mae hi yn hynny mewn amryfusedd. Canys pa wedd a geill dyn mewn gwirionedd alw Duw yn Dâd, pan yw yn ammeu ei fod yn blentyn i Dduw. Tosturus yw gweddi yr hwn a alwo Duw yn Dad, ac a amheuo ei fod ef yn Dâd iddo. Gwir yw y cyfyd yn fynych ammheuon yn y rhai mwyaf grassol, eithr fe ddyle y cyfryw rai ymrysson yn eu herbyn, a gochelyd rhoddi lleiddynt, sef, tra fônt yn rhodio gyd â Duw mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd. Ond medd y Papistiaid, bod yn hyderus ac yn siccr o drugaredd Duw sydd ymchwydd, a rhyfyg mawr:
Rwy'n atteb, (os rhyfyg ac ymchwydd yw) may rhyfyg ac ymchwydd Sanctaidd ydyw, oherwydd orchymmyn O Dduw iw bobl ei alw ef in Dâd.
Rwy'n atteb, (os rhyfyg ac ymchwydd yw) mai rhyfyg ac ymchwydd Sanctaidd ydyw, oherwydd orchymmyn O Dduw iw bobl ei alw ef yn Dâd.