Ystyr a meddwl y geiriau Ein Tâd.
pp. 38–4718 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ystyr a meddwl y geiriau Ein Tâd.
Fe elwir Duw in Dâd, oblegit ei fod ef in Dâd i Grist trwy naturiaeth; ac ynddo fe in Dâd i bob credadyn, je ir holl Eglwys.
Fe elwir Duw yn Dâd, oblegit ei fod ef yn Dâd i Grist trwy naturiaeth; ac ynddo fe yn Dâd i bob credadyn, ie ir holl Eglwys.
Ac yma fe ellir gofyn, A allwn ni mewn gweddi ddywedyd, fy Nhâd, in •ystal ac, Ein Tâd.
Ac yma fe ellir gofyn, A allwn ni mewn gweddi ddywedyd, fy Nhâd, yn •ystal ac, Ein Tâd.
A'r atteb yw, y dichon Cristion, mewn gweddi ddirgel ac wrtho ei hun, ddywedyd Fy Nhâd. Hyn a wrentir trwy Ecsampl ein Achubwr Christ, Mat, 26.39. a 27.46. Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif. Fy Nuw, fy Nuw, paham i'm gadewaist? Nid yw Meddwl Christ i'n rhwymo ni ir geirieu hyn, and i'n dyscu ni, nas dylen ni with weddio ofalu in unig amdanom ein hunain, ac ystyried ein trueni ein hunain, eithr hefyd gofalu am, ac ystyried trueni ein câdfrodyr: Ac am hynny, pan gweddiom ni trostynt hwy, in ein gweddiau dirgel, mal trosom ein hunain, yr ym ni 'n cyflawni gwir feddwl y geirrau hyn.
A'r atteb yw, y dichon Cristion, mewn gweddi ddirgel ac wrtho ei hun, ddywedyd Fy Nhâd. Hyn a wrentir trwy Ecsampl ein Achubwr Crist, Mat, 26.39. a 27.46. Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif. Fy Nuw, fy Nuw, paham i'm gadewaist? Nid yw Meddwl Crist i'n rhwymo ni ir geirieu hyn, ond i'n dyscu ni, nas dylen ni with weddio ofalu yn unig amdanom ein hunain, ac ystyried ein trueni ein hunain, eithr hefyd gofalu am, ac ystyried trueni ein câdfrodyr: Ac am hynny, pan gweddiom ni trostynt hwy, yn ein gweddiau dirgel, mal trosom ein hunain, yr ym ni 'n cyflawni gwir feddwl y geirrau hyn.