5. Rhinweddau a grasyssau iw dymuna.
pp. 102–1032 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Rhinweddau a grasyssau iw dymuna.
Y Grâs iw ddymuno yma, yw Yspryd grâs a gweddiau. Zach. 12.10. hynny yw dawn yr Yspryd glan drwy'r hwn ein gwneir ni in alluawg i alw ar Dduw am faddevant ⟨p. 103⟩o'n pechodau. Y neb a fo wedi gwneuthur in erbyn cyfreithiau 'r Brenin, a chwedi cwympo mewn perigl ac enbydrwydd am ei hoedl, ni bid hwnnw lonydd, ac nis gorphywys, nes caffael ohono ei bardwn a maddevant: in yr un rhyw fodd, y mae'r rhai sydd a'r yspryd hwn ynddynt, ac a ydynt drwy hynny in deimladwy o'u pechodau, in lawn aflonyddwch, ac nis medrant orphywys, nes iddynt hwy mewn gweddi, gaffael eu ysgafnhau o lwyth a baich eu pechodau. Yr wyfi in cyfaddeu a geill din ddadwrdd ac arfer aml-eirieu, eithr nis geill efe weddio in fuddiol ac in ffrwythlon cyn caffael ohono yr yspryd hwn i wneuthyr iddo grio a galw Abba Dâd. Pawb a fedrant weddio am eu hangenrheidieu bydol: eithr disc di (yr hwn a weli dy drueni) weddio am gael rhan ynghrist, gan fod arnatti ei eisieu ef, ac am faddevant pechodau trwyddo ef.
Y Grâs iw ddymuno yma, yw Yspryd grâs a gweddiau. Zach. 12.10. hynny yw dawn yr Yspryd glan drwy'r hwn ein gwneir ni yn alluawg i alw ar Dduw am faddeuant ⟨p. 103⟩o'n pechodau. Y neb a fo wedi gwneuthur yn erbyn cyfreithiau 'r Brenin, a chwedi cwympo mewn perigl ac enbydrwydd am ei hoedl, ni bydd hwnnw lonydd, ac nis gorphywys, nes caffael ohono ei bardwn a maddeuant: yn yr vn rhyw fodd, y mae'r rhai sydd a'r yspryd hwn ynddynt, ac a ydynt drwy hynny yn deimladwy o'u pechodau, yn llawn aflonyddwch, ac nis medrant orphywys, nes iddynt hwy mewn gweddi, gaffael eu ysgafnhau o lwyth a baich eu pechodau. Yr wyfi yn cyfaddeu a geill dyn ddadwrdd ac arfer aml-eirieu, eithr nis geill efe weddio yn fuddiol ac yn ffrwythlon cyn caffael ohono yr yspryd hwn i wneuthyr iddo grio a galw Abba Dâd. Pawb a fedrant weddio am eu hangenrheidieu bydol: eithr dysc di (yr hwn a weli dy drueni) weddio am gael rhan ynghrist, gan fod arnatti ei eisieu ef, ac am faddeuant pechodau trwyddo ef.