Y Mae yr arfer o'r rhan hyn o'r arch hon in Ddaionus ac in fuddiol jawn; canys y mae hi in dangos arwydd hynod i ni, i siccrhau ein cydwybodau am faddevant o'n pechodau. In ddiau y mae lawyer-jawn in arfer ⟨p. 107⟩y geirieu hyn in fynych, ac in her o amser, heb gaffael dim siccrwydd am faddevant o'i pechodau: a'r achos yw, am nad ydynt in dymuno ac in hiraethu am drugaredd Duw, nac in meddwl chwaith am faddeu i ddynion: yr hwn beth pet fae ynddynt, yna in ddiammeu fo a fydde hynny Sêl a siccrwydd iddynt hwy am faddevant o'i pechodau. Oherwydd hynny o mine neb ei siccrhau am drugaredd Dduw in hyn, descynned ac aed i lawr i eigion ei gallon a'i enaid ei hun, a chwilied yno in fanol, ac os clyw efe ei gallon in barod i faddeu, mal y mae efe in barod i ofyn maddevant ar law Dduw, yna y geill ym-siccrhau ei hunan o drugaredd Dduw ing-hrist, mal y dyscod ein achubwr i ninny gan ddywedyd, Math. 5.7. Gwyn eu bid y trugarogion: canys hwy a gant drugaredd. Ystyriwch y cymhariadau ymma. Y mae din wrth rodio tan Fur, wall, neu fagwyr gerric mewn diwrnod-oer heulog, in cael gwres oddiwrth y fagwyr neu'r Mur, yr hon a gawse o'r blaen wrês oddiwrth yr haul: fe•ly y mae'r neb a ddangoso drugaredd i eraill, in gyntaf wedi derbyn, trugareddd oddiwrth Dduw. Cymmerwch hefyd drill o gwyr, a rhowch fell wrtho, ac fo a edu'r fell ei llûn in y cwyr: ar ban pan yr edrycho neb: fo a wyr in dda-ddigon fod fell wrth y cwyr, yr hon a adawodd ei llûn a'i hill yno: felly y mae am bob un y sydd â pharodrwydd ynddo ei hun i faddeu i eraill: wrth hyn y geill cristion ⟨p. 108⟩wybod in hawdd in ei gallon ei hun, ddarfod i Dduw selu a siccrhau iddo faddevant o'i bechodau: ac am hynny chwilied pôb din in dda ei gallon ei hun, ac edryched, a oes ynddo wir ewyllysgarwch, i faddeu i eraill, canys hynny yw megis print neu lun trugaredd Duw in ei gallon o'i faddevant iddo yntef.
Y Mae yr arfer o'r rhan hyn o'r arch hon yn Ddaionus ac yn fuddiol iawn; canys y mae hi yn dangos arwydd hynod i ni, i siccrhau ein cydwybodau am faddeuant o'n pechodau. Yn ddiau y mae llawer-iawn yn arfer ⟨p. 107⟩y geirieu hyn yn fynych, ac yn hir o amser, heb gaffael dim siccrwydd am faddeuant o'i pechodau: a'r achos yw, am nad ydynt yn dymuno ac yn hiraethu am drugaredd Duw, nac yn meddwl chwaith am faddeu i ddynion: yr hwn beth pet fae ynddynt, yna yn ddiammeu fo a fydde hynny Sêl a siccrwydd iddynt hwy am faddeuant o'i pechodau. Oherwydd hynny o myn neb ei siccrhau am drugaredd Dduw yn hyn, descynned ac aed i lawr i eigion ei galon a'i enaid ei hun, a chwilied yno yn fanol, ac os clyw efe ei galon yn barod i faddeu, mal y mae efe yn barod i ofyn maddeuant ar law Dduw, yna y geill ym-siccrhau ei hunan o drugaredd Dduw yng-hrist, mal y dyscod ein achubwr i nyni gan ddywedyd, Math. 5.7. Gwyn eu byd y trugarogion: canys hwy a gant drugaredd. Ystyriwch y cymhariadau ymma. Y mae dyn wrth rodio tan Fur, wal, neu fagwyr gerric mewn diwrnod-oer heulog, yn cael gwres oddiwrth y fagwyr neu'r Mur, yr hon a gawse o'r blaen wrês oddiwrth yr haul: fe•ly y mae'r neb a ddangoso drugaredd i eraill, yn gyntaf wedi derbyn, trugareddd oddiwrth Dduw. Cymmerwch hefyd ddryll o gwyr, a rhowch fel wrtho, ac fo a edu'r fel ei llûn yn y cwyr: ar ba vn pan yr edrycho neb: fo a wyr yn dda-ddigon fod fel wrth y cwyr, yr hon a adawodd ei llûn a'i hyl yno: felly y mae am bob vn y sydd â pharodrwydd ynddo ei hun i faddeu i eraill: wrth hyn y geill cristion ⟨p. 108⟩wybod yn hawdd yn ei galon ei hun, ddarfod i Dduw selu a siccrhau iddo faddeuant o'i bechodau: ac am hynny chwilied pôb dyn yn dda ei galon ei hun, ac edryched, a oes ynddo wir ewyllysgarwch, i faddeu i eraill, canys hynny yw megis print neu lun trugaredd Duw yn ei galon o'i faddeuant iddo yntef.