A maddeu i ni ein dyledion,
pp. 97–10317 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A maddeu i ni ein dyledion,
1. Y Cytundeb.
MAL dymma'r bummed arch, a'r ail o'r rhai sydd in perthynu i ni ein huain: in yr arch a aeth o'r blaen yr oeddem ni in gofyn bendithion amserol: in hon a'r nesaf sydd in canlyn, yr ydy-mi in gofyn bendithion ysprydol. Lle y mae in hawdd i ni ganfod a gwybod, gan fod dwy arch ynghylch pethau ysprydol perthynnadwy i ni, ac heb and un arch in unig am bethau bydol, y dyle ein gofal am ein eneidiau fod in ddau cymmaint a'n gofal am ein cyrph. Y mae dynion in gofalu am eu Cyrph, a'i calonnau wedi gosod ar gyfoeth, golud, a derchafiad in y bid hwn: nhwy a fyddant bodlon i wrando ar air Duw ar y did sabaoth:ac etto nid ydynt y pride hynny nac ar undid o'r wythnos in ei osod ef i fynu a'i ystyried in eu calonnau, nac in ei ym-arfer in ei buchedd, yr hyn beth sydd in dangos leied yw eu gofal am eu heneidiau. Holy. Beth yw'r achos paham yr ym in gyntaf in gofyn y pethau sy'n perthynu i'n cyrph, ac in yr ail lle, y pethau a berthynant i'r enaid, Atteb. Y mae trefn yr Yspryd glan in yr archau hyn in rhyfeddol: canys y mae yr Arglwydd in ystiried ddwlni a chisdynrwydd naturiaeth dynion: ac am hynny y mae in eu dwyn i fynu, ac megis in eu harwain in y blaen mesur ychydig ac ychydig megis ac y mae'r Athro neu'r meistr in ⟨p. 98⟩fer o wneuthur à'i yscolheigion jefaingc, gan ddangos iddynt hwy y gwyddorion a'r dechrevad, a'i denu felly o bwngci bwngc, nes iddynt ddyfod i addysc a fo mwy:canys y mae'r arch sydd o flaen y rhain, megis y gris, neu'r stâr gyntaf i'r ddwy ymma sydd in canlyn. Rhaid i'r neb a orphwyso ar drugaredd Duw am faddevant o'i bechodau, orphywys in gyntaf ar ragddarparwch Duw am bethau rheidiol ir bywyd hwn:a'r neb nis gallo roddi ei obaith ar Dduw a chredu ynddo, am ddarparu a pheri iddo fwyd a diod, pa wed yr ymddiried hwnnw i drugaredd Dduw am jechydwriaeth iw enaid? ymma y gallw-ni welled bêth yw ffydd dynion bydol: hwynt-hwy a ddywedant fod Duw in drugarog, a'i bod in credu ing-hrist: yr hwn beth pa wed y geill fod in wir, pan ynt hwy in ei ammeu, ac in anymddiried yntho mewn pethau sydd lay, megis bwyd a diod, mal y mae ei cybydddra nhwy in ddangos? ymmhellach, wrth y drefn hyn in yr archau, fe a'n dyscir, i geisio maddevant pechodau mo'r daer, ac yr ym in ceisio bendithion tymmhorol.