A81315:950
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Gedwch iddo ef adolwyn, Philagathus; Canys chwi a welwch beth sydd ynddo. Nid oes diben ar ei geccreth ef. Eithr yr hwn sydd heb wybod, bydded heb wybod: ⟨p. 423⟩ar neb sydd aflan bydded in aflan rhag law.1 And bellach moeswch droi ein ymmadrodd at Asunetus: Canys mi â welaf ei fod efe in drîst ei gallon, ac in gythryblus in ei feddwl. Pa fodd yr ydych Asunetus. Pa fodd yr ymglywch? mi â dybygwn eich bod in brûdd jawn.
Theol. Gedwch iddo ef adolwyn, Philagathus; Canys chwi a welwch beth sydd ynddo. Nid oes diben ar ei geccreth ef. Eithr yr hwn sydd heb wybod, bydded heb wybod: ⟨p. 423⟩ar neb sydd aflan bydded yn aflan rhag llaw.1 Ond bellach moeswch droi ein ymmadrodd at Asunetus: Canys mi â welaf ei fod efe yn drîst ei galon, ac yn gythryblus yn ei feddwl. Pa fodd yr ydych Asunetus. Pa fodd yr ymglywch? mi â dybygwn eich bod yn brûdd iawn.
- 1Datc. 22.11.
Asunet. Gwell wyf o'ch plegit chwi Sir, diolch i Dduw: ni wybum er joed beth oedd bechod, hid heddyw; Rhyngodd bodd i Dduw yr awr-hon agoryd fy llygaid i welled, ac ymwrando ag ef; y mae cythryfwl mawr in fynghydwybod wrth gofio beth a fum. Coffau fy mhechodau gynt fy'n peri dychryn ynof, pan ystyriwyf mor anwybodus, mor anghrefyddol, ac mor bell oddi-wrth Dduw y treuliais fy holl enioes: y mae hynny in pigo, ac in gwascu fynghalon. Gweled yr wyfi yr awr-honey peth nis gwelais erioed or blaen, a chlywed y peth ni chlywais erioed: Mi a welaf in amlwg pe buaswn farw in y cyflwr hwnnw y bum in byw ynddo, in ddiammeu mi a fuaswn damnedig, a cholledig in dragwyddol in fy mhechod, am hanwybodaeth.