A81315:964
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Yr wyf in cael cyssur a diddanwch mawr oddi-wrth eich geiriau chwi. Eich gwaith chwi in pregethu'r Efengyl, ac in yspysu helaeth drugaredd Dduw ing-Hrist, ai addewidion ef, sydd in fy adfywio i in rhagorol, ac megis in rhoddi bywyd o newydd ynof: megis gwîn, a siwgwr ydynt i'm henaid, a melusach na'r mêl, je na'r dil mêl. Megis meddiginiaeth ydynt i'm henaid clwyfus, ac megis ennaint i'm doluriau ysprydol. In awr yr wyf in gweled pa drueni fy mewn din, a pha drugaredd sydd in Nuw. ⟨p. 444⟩Ac mi a adwaen wrth brawf gresynol, lle na chlywir trueni, nad oes yno gyfrif am drugaredd. Oblegit i Dduw yr wyf in diolch am dano, in awr yr wyf in dechreu cyrhaeddyd peth crediniaeth, fod addewidion Duw in perthyn i mi, fod fy mhechodau wedi eu maddeu, a'm body in un or rhai a fyddant cadwedig.
Asune. Yr wyf yn cael cyssur a diddanwch mawr oddi-wrth eich geiriau chwi. Eich gwaith chwi yn pregethu'r Efengyl, ac yn yspysu helaeth drugaredd Dduw yng-Hrist, ai addewidion ef, sydd yn fy adfywio i yn rhagorol, ac megis yn rhoddi bywyd o newydd ynof: megis gwîn, a siwgwr ydynt i'm henaid, a melusach na'r mêl, ie na'r dil mêl. Megis meddiginiaeth ydynt i'm henaid clwyfus, ac megis ennaint i'm doluriau ysprydol. Yn awr yr wyf yn gweled pa drueni fy mewn dyn, a pha drugaredd sydd yn Nuw. ⟨p. 444⟩Ac mi a adwaen wrth brawf gresynol, lle na chlywir trueni, nad oes yno gyfrif am drugaredd. Oblegit i Dduw yr wyf yn diolch am dano, yn awr yr wyf yn dechreu cyrhaeddyd peth crediniaeth, fod addewidion Duw yn perthyn i mi, fod fy mhechodau wedi eu maddeu, a'm bodi yn vn or rhai a fyddant cadwedig.
Theol. Y mae in dda gan fy-nghalon ddarfod i Dduw in ôl golud ei drugaredd weithio ynoch chwi y daioni hwn: yr wyf o eigion fynghalon in rhoddi iddo ef y moliant ar gogoniant am dano. Dedwydd ydych eich geni i weithio o Dduw ynoch waith mor raslawn. Ei ffafor ragorol ef ydyw hyn, a'i drugaredd enwedigol tuag attoch: Oblegit gwir edifarhau, a chredu yw unig rhydd-did, a brenhinol ragor-fraint plant Duw. Attolygaf i Duw gan hynny an-chwanegu eich flydd, ach llewi o bôb cyflawnder llawenydd, a thangneddyf drwy gredu, fell y galloch amlhau mewn gobaith drwy allu yr Yspryd Glân.