Os darfu i Cato uticensis, a Chleombrotus, dau ŵr genhedlig (wrth ddarllain llyfr Plato am anfarwoldeb yr enaid) in ewyllysgar, y nail dory ei wddf, a'r llall redeg ar flaen ei gleddyf, fell y gallent (in ol eu tybygoliaeth hwynt) gael meddiannu y gorfoledd hwnnw. Pa gywilydd yw i Gristianogion (y rhai sydd in gwybod y pethau hynny mewn mesur mwy odiaethol, a mod cyflawnach allan o lyfr Duw ei hun) na byddent ewyllysgar i sinned ir gorfoledd nefol hwnnw? In enwedig pan fo eu Harglwydd in galw am danynt yno. Os bid gan hynny ynot ti ddim cariad i Dduw, na dymuniad o gael dedwyddwch, neu jechydwriaeth i't dy hun; Pan fyddo amser dy ymadawiad in nessâu, yr amser hynny meddaf, ar mod ar farwolaeth yr hen a ddarfu i Dduw in ei gyngor digyfnewidiol ei raglunio, a'i ragddarparu i ti, er cyn dy ⟨p. 357⟩eni; dyro a thraddoda i fynu dy enaid in ewyllyscar ac in llawen i law drugarog Jesus Grist dy Jachawdwr. Ac er mwyn y diben hyn, pan fyddo yr amser in dyfod, mal i'r ymdderchafodd yr Angel yngolwg Manoah a'i wraig oddiwrth yr allor i fynu ir nefoedd in fflam yr aberth; felly ymegnia dithau fell y gallo dy enaid yngwydd dy gyfneseifiaid ymdderchafu oddiar allor calon ddrylliedig in y bêr arogldarth hon, neu in y cyfryw aberth ysprydol o weddi.
Os darfu i Cato vticensis, a Chleombrotus, dau ŵr genhedlig (wrth ddarllain llyfr Plato am anfarwoldeb yr enaid) yn ewyllysgar, y naill dorri ei wddf, a'r llall redeg ar flaen ei gleddyf, fel y gallent (yn ol eu tybygoliaeth hwynt) gael meddiannu y gorfoledd hwnnw. Pa gywilydd yw i Gristianogion (y rhai sydd yn gwybod y pethau hynny mewn mesur mwy odiaethol, a modd cyflawnach allan o lyfr Duw ei hun) na byddent ewyllysgar i syned ir gorfoledd nefol hwnnw? Yn enwedig pan fo eu Harglwydd yn galw am danynt yno. Os bydd gan hynny ynot ti ddim cariad i Dduw, na dymuniad o gael dedwyddwch, neu iechydwriaeth i't dy hun; Pan fyddo amser dy ymadawiad yn nessâu, yr amser hynny meddaf, ar modd ar farwolaeth yr hen a ddarfu i Dduw yn ei gyngor digyfnewidiol ei raglunio, a'i ragddarparu i ti, er cyn dy ⟨p. 357⟩eni; dyro a thraddoda i fynu dy enaid yn ewyllyscar ac yn llawen i law drugarog Jesu Grist dy Jachawdwr. Ac er mwyn y diben hyn, pan fyddo yr amser yn dyfod, mal i'r ymdderchafodd yr Angel yngolwg Manoah a'i wraig oddiwrth yr allor i fynu ir nefoedd yn fflam yr aberth; felly ymegnia dithau fel y gallo dy enaid yngwydd dy gyfneseifiaid ymdderchafu oddiar allor calon ddrylliedig yn y bêr arogldarth hon, neu yn y cyfryw aberth ysprydol o weddi.