4. Hwynt a lenwir â llawenydd anrhaethadwy: in dy ŵydd di (Medd Dafydd) y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. a'r llawenydd hwnnw, a gyfyd in benaf oddiwrth welled Duw: ac o welled yr holl Angelion sanctaidd, ac eneidiau bendigedig y gwŷr eyfiawn perffaith, y rhai sydd mewn llawenydd, a gogoniant gyd ag ef. And in enwedig o'r golwg hyfryd a'r Jesus Cyfryngwr y Testament newydd, Heb. 12.24. ein Emmanuel ni, Duw wedi ei wneuthur in ddŷn, ei welled ef a fydd in brif achos o'n dedwyddyd ni, a'n gorfoledd. Os darfu i'r Israeliaid in Jerusalem floeddio o lawenydd hid oni ddadseiniodd y ddaiar, wrth welled coroni Solomon; Pa faint a fydd llawenydd yr etholedigion in y nêf, wrth welled Christ, (y gwir Solomon gwedi) ei ymwisco â gogoniant? O darfu i Joan fedyddiwr in ei ŵydd ef o wir lawenydd neidio ynghrôth ei fam, Luc. 1.44. Pa faint y cawn ni ymorfoleddu mewn hyfrydwch, pan fo ef nid in unig gyd â ninny, and ynom ni in y nefoedd? Os darfu i'r rhai doethion lawenychu cymmaint, pan welsant ef in faban in gorwedd in y preseb: Mat. 2.10. pa orfoledd a fydd i'r etholedigion o'i welled ef in eistedd in Frenin in ei orseddfaingc nefol? O bu Simeon hên mor llawen wrth ei welled ef in blentyn in y deml in nwylaw offeiriad iw gyflwyno i'r Arglwydd, Luc. 2.28. pa faint mwy a fydd ein llawenydd ni, gael ei welled ⟨p. 87⟩ef in Frenin, in llywodraethu pob peth a'r ddeheulaw ei Dâd? O bu Joseph a Mair mor llawen pan gawsant ef ym mhlith yr athrawon in y deml, Luc. 2.46. pa faint llawenach a fydd ein eneidiau ni pan welom ef in eistedd in Arglwydd ym mhlith Angelion nefol. Dymma y llawenydd hwnnw sydd in eiddo ein Harglwydd ni, Matth. 25.21. yr hwn (fell y dywaid yr Apostol) ni weloddllygad, ni chlywodd clust, ac ni eill calon dŷn moi ddirnad; 1 Cor. 2.9. yr hwn o ran na eill mor mined ynom ni, ninny a gawn fined iddo ef.
4. Hwynt a lenwir â llawenydd anrhaethadwy: yn dy ŵydd di (Medd Dafydd) y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. a'r llawenydd hwnnw, a gyfyd yn benaf oddiwrth weled Duw: ac o weled yr holl Angelion sanctaidd, ac eneidiau bendigedig y gwŷr eyfiawn perffaith, y rhai sydd mewn llawenydd, a gogoniant gyd ag ef. Ond yn enwedig o'r golwg hyfryd a'r Jesu Cyfryngwr y Testament newydd, Heb. 12.24. ein Emmanuel ni, Duw wedi ei wneuthur yn ddŷn, ei weled ef a fydd yn brif achos o'n dedwyddyd ni, a'n gorfoledd. Os darfu i'r Israeliaid yn Jerusalem floeddio o lawenydd hyd oni ddadseiniodd y ddaiar, wrth weled coroni Salomon; Pa faint a fydd llawenydd yr etholedigion yn y nêf, wrth weled Crist, (y gwir Salomon gwedi) ei ymwisco â gogoniant? O darfu i Joan fedyddiwr yn ei ŵydd ef o wir lawenydd neidio ynghrôth ei fam, Luc. 1.44. Pa faint y cawn ni ymorfoleddu mewn hyfrydwch, pan fo ef nid yn unig gyd â nyni, ond ynom ni yn y nefoedd? Os darfu i'r rhai doethion lawenychu cymmaint, pan welsant ef yn faban yn gorwedd yn y preseb: Mat. 2.10. pa orfoledd a fydd i'r etholedigion o'i weled ef yn eistedd yn Frenin yn ei orseddfaingc nefol? O bu Simeon hên mor llawen wrth ei weled ef yn blentyn yn y deml yn nwylaw offeiriad iw gyflwyno i'r Arglwydd, Luc. 2.28. pa faint mwy a fydd ein llawenydd ni, gael ei weled ⟨p. 87⟩ef yn Frenin, yn llywodraethu pob peth a'r ddeheulaw ei Dâd? O bu Joseph a Mair mor llawen pan gawsant ef ym mhlith yr athrawon yn y deml, Luc. 2.46. pa faint llawenach a fydd ein eneidiau ni pan welom ef yn eistedd yn Arglwydd ym mhlith Angelion nefol. Dymma y llawenydd hwnnw sydd yn eiddo ein Harglwydd ni, Matth. 25.21. yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) ni weloddllygad, ni chlywodd clust, ac ni eill calon dŷn moi ddirnad; 1 Cor. 2.9. yr hwn o ran na eill mor myned ynom ni, nyni a gawn fyned iddo ef.