Prydnawnol weddi tros y Teulu.
pp. 192–1969 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Prydnawnol weddi tros y Teulu.
O Dragwyddol Dduw a thrugaroccaf Dád, Nyni dy weision anheilwng a ymdarostyngwn ein hunain i lawr o flaen troedfaingc dy rad, gan gydnabod ein bod ni in etifeddu llygredigaeth ein Tadau, a thorri o honom in weithredol dy holl orchymynion sanctaidd, ar feddwl, gair, a gweithred, fell nad oes dim daioni wrth nature in cyfanneddu o'n mewn. Canys y mae ein calonnau ni in lawn o falchder dirgeledig, anoddefgarwch, rhagrith, celwydd, trachwant, gwagedd, halogedigrwydd, anhyder, gormod cariad i ni ein hunain, ac i'r bid, rhy fychan o gariad i ti ac i'th Teyrnas, ac in wâg heb ddim ffydd, cariad, dioddefgarwch a'r cyfryw râdau ysprydol. Pe bait ti gan hynny in mined a ninny i'r Farn, ac in chwilio ein anianol lygredigaeth, a dal fulw ar y ffrwythau ar effeithiau melldigedig a dyfodd o hono: Fe allay Satan ein cyfrif, a'n nodi in uniawn in ei eiddo ei hùn, ac ni allem ni ddisgwil dim arall oddiwrth dy Fawrhydi, and dy ddigofaint ti, a'n damnedigaeth ninnau, yr hyn er is her o amser a haeddasom.
O Dragwyddol Dduw a thrugaroccaf Dád, Nyni dy weision anheilwng a ymdarostyngwn ein hunain i lawr o flaen troedfaingc dy rad, gan gydnabod ein bod ni yn etifeddu llygredigaeth ein Tadau, a thorri o honom yn weithredol dy holl orchymynion sanctaidd, ar feddwl, gair, a gweithred, fel nad oes dim daioni wrth natur yn cyfanneddu o'n mewn. Canys y mae ein calonnau ni yn llawn o falchder dirgeledig, anoddefgarwch, rhagrith, celwydd, trachwant, gwagedd, halogedigrwydd, anhyder, gormod cariad i ni ein hunain, ac i'r byd, rhy fychan o gariad i ti ac i'th Teyrnas, ac yn wâg heb ddim ffydd, cariad, dioddefgarwch a'r cyfryw râdau ysprydol. Pe bait ti gan hynny yn myned a nyni i'r Farn, ac yn chwilio ein anianol lygredigaeth, a dal fulw ar y ffrwythau ar effeithiau melldigedig a dyfodd o hono: Fe allai Satan ein cyfrif, a'n nodi yn vniawn yn ei eiddo ei hùn, ac ni allem ni ddisgwil dim arall oddiwrth dy Fawrhydi, ond dy ddigofaint ti, a'n damnedigaeth ninnau, yr hyn er ys hir o amser a haeddasom.