pp. 119–12210 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y Mae'r geirieu hyn in cynnwys rheswm neu achos yr holl archau o'r blaen: yr hyn fy in ein hyf-have a'n ysprydoli i ofyn gan Dduw bethau rheidiol i ni.
Y Mae'r geirieu hyn yn cynnwys rheswm neu achos yr holl archau o'r blaen: yr hyn fy yn ein hyf-hau a'n ysprydoli i ofyn gan Dduw bethau rheidiol i ni.
(Eiddot ti yw) Y mae gan Frenhinoedd daiarol deyrnasoedd, nerth a gogoniant. Dan. 2.37. Ac etto nid ohonynt eu hunain y mae'r rhain ganthynt hwy, eithr oddiwrth Dduw, Rhaglawiaid neu Swyddogion pwy un a ydynt hwy ar y ddaiar hon. Ac oherwydd hynny, er mwyn gwahanu rhwng teyrnas Dduw, ei allu, a'i ogoniant ef, a'r eiddynt hwy, (self Brenhinoedd y ddaiar,) yr ydys in dywedyd, eiddot ti yw 'r deyrnas &c. self, fod y rhain oll gan Dduw ynddo ei hun, ac ohono ei hun, a chanthynt hwythau oddiwrtho ef.
(Eiddot ti yw) Y mae gan Frenhinoedd daiarol deyrnasoedd, nerth a gogoniant. Dan. 2.37. Ac etto nid ohonynt eu hunain y mae'r rhain ganthynt hwy, eithr oddiwrth Dduw, Rhaglawiaid neu Swyddogion pwy vn a ydynt hwy ar y ddaiar hon. Ac oherwydd hynny, er mwyn gwahanu rhwng teyrnas Dduw, ei allu, a'i ogoniant ef, a'r eiddynt hwy, (sef Brenhinoedd y ddaiar,) yr ydys yn dywedyd, eiddot ti yw 'r deyrnas &c. sef, fod y rhain oll gan Dduw ynddo ei hun, ac ohono ei hun, a chanthynt hwythau oddiwrtho ef.
(Y deyrnas) Fo ddeonglir ac a agorir y geirieu hyn in dda jawn. 1. Chron. 29.11. I ti Arglwydd y mae mawredd, a gallu a gogoniant, a goruwchafiaeth a harddwch: canys y cwbl in y nefoedd, ac in y ddaiar sydd eiddo ti: y deyrnas sydd eiddot ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist in ben ar bob peth. Fo a ddywedir fod y deyrnas in eiddo Duw, oblegit may efe in unig sydd in meddiannu pob dim oll ac y sydd: ac oblegit may efe bie'r uchel lywodraeth ar bob dim, iw rheoli in ôl ei ewyllys ei hun. Weithian gan may Duw bie pob ⟨p. 120⟩dim oll ar y sydd in y nefoedd, ac ar y sydd ar y ddaiar, ni allwn gasclu oddiwrth hynny reswm cadarn, i'n cynhyrfu a'n dwyn i weddio a galw arno ef in unig, am y nawdd, y doniau, y grâs, a'r bendithion sy'n niffig inni.
(Y deyrnas) Fo ddeonglir ac a agorir y geirieu hyn yn dda iawn. 1. Chron. 29.11. I ti Arglwydd y mae mawredd, a gallu a gogoniant, a goruwchafiaeth a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar sydd eiddo ti: y deyrnas sydd eiddot ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist yn ben ar bob peth. Fo a ddywedir fod y deyrnas yn eiddo Duw, oblegit mai efe yn unig sydd yn meddiannu pob dim oll ac y sydd: ac oblegit mai efe bie'r vchel lywodraeth ar bob dim, iw rheoli yn ôl ei ewyllys ei hun. Weithian gan mai Duw bie pob ⟨p. 120⟩dim oll ar y sydd yn y nefoedd, ac ar y sydd ar y ddaiar, ni allwn gasclu oddiwrth hynny reswm cadarn, i'n cynhyrfu a'n dwyn i weddio a galw arno ef yn vnig, am y nawdd, y doniau, y grâs, a'r bendithion sy'n niffig inni.
(Y nerth) Y mae gen dywysogion a brenhinoedd daiarol deyrnasoedd, ac etto y maent hwy lawyer-gwaith in ddi-nerth ac heb allu: eithr y mae gen Dduw Deyrnas, nerth, a gallu hefyd: je y mae ei allu ef in ddifesur, ac in annherfynol, ac efe a eill a fynno, a mwy nag a fynno: eithr am y pethau sydd in dyfod o wendid ac eisieu gallu, nis geill efe mo'i gwneuthyr, megis dywedyd celwydd, a'i wadu ei hunan, a phe gall, nis bid efe holl alluawg. Ac mal y mae efe in holl alluawg ynddo ei hun, felly y mae holl allu pob creadur in dyfod oddiwrtho ac ohono efe in unig.
(Y nerth) Y mae gen dywysogion a brenhinoedd daiarol deyrnasoedd, ac etto y maent hwy lawer-gwaith yn ddi-nerth ac heb allu: eithr y mae gen Dduw Deyrnas, nerth, a gallu hefyd: ie y mae ei allu ef yn ddifesur, ac yn annherfynol, ac efe a eill a fynno, a mwy nag a fynno: eithr am y pethau sydd yn dyfod o wendid ac eisieu gallu, nis geill efe mo'i gwneuthyr, megis dywedyd celwydd, a'i wadu ei hunan, a phe galle, nis bydde efe holl alluawg. Ac mal y mae efe yn holl alluawg ynddo ei hun, felly y mae holl allu pob creadur yn dyfod oddiwrtho ac ohono efe yn vnig.
Holy. Pa wed y geill hyn fod, a chan y cythrel nerth neu allu i bechu, yr hwn nid yw oddiwrth Dduw? Atteb. Nid nerth neu allu yw pechu, eithr in hyttrach eisieu nerth a gallu: pe bay amgen, bid holl nerth a gallu Satan in dyfod oddiwrth Dduw.
Holi. Pa wedd y geill hyn fod, a chan y cythrel nerth neu allu i bechu, yr hwn nid yw oddiwrth Dduw? Atteb. Nid nerth neu allu yw pechu, eithr yn hyttrach eisieu nerth a gallu: pe bai amgen, bydde holl nerth a gallu Satan yn dyfod oddiwrth Dduw.
Ac oddiwrth hyn hefyd y mae in tarddu allan rheswm arall i'n gyrru ni i weddio a galw ar Dduw. Oherwydd bod yr holl allu in eiddo efe: nis gallwn ni bight wneuthyr dim o'r hyn yr ydy-mi in ei ofyn, and trwy 'r gallu yr ydy-mi in ei dderbyn oddiwrtho ef.
Ac oddiwrth hyn hefyd y mae yn tarddu allan rheswm arall i'n gyrru ni i weddio a galw ar Dduw. Oherwydd bod yr holl allu yn eiddo efe: nis gallwn ni byth wneuthyr dim o'r hyn yr ydy-mi yn ei ofyn, ond trwy 'r gallu yr ydy-mi yn ei dderbyn oddiwrtho ef.
(Eiddot ti 'r gogoniant) Y mae hyn, in ⟨p. 121⟩tarddu ac in codi o'r daubeth y ddywetpwyd eisioes eu bod in perthynu i Dduw, self y Deyrnas, a'r Gallu: Canys gan fod y titl ar hawl ymmhob dim oll, a'r nerth, ar gallu iw dosparthu a'i llywodraethu hwynt, in perthynu i Dduw; y mae in canlyn in gymmwys am hynny fod yr holl ogoniant in eiddo efe: je ynddo fe y mae cyflawader y gogoniant: a holl ogoniant y creaduriaid sydd ohono efe. I bechaduriaid nis perthyn dim and cywilydd a gwarth. Dan. 9.7.
(Eiddot ti 'r gogoniant) Y mae hyn, yn ⟨p. 121⟩tarddu ac yn codi o'r ddau beth y ddywetpwyd eisioes eu bod yn perthynu i Dduw, sef y Deyrnas, a'r Gallu: Canys gan fod y titl ar hawl ymmhob dim oll, a'r nerth, ar gallu iw dosparthu a'i llywodraethu hwynt, yn perthynu i Dduw; y mae yn canlyn yn gymmwys am hynny fod yr holl ogoniant yn eiddo efe: ie ynddo fe y mae cyflawader y gogoniant: a holl ogoniant y creaduriaid sydd ohono efe. I bechaduriaid nis perthyn dim ond cywilydd a gwarth. Dan. 9.7.
Y mae 'r peth hyn hefyd, in rhoddi trydydd achos i'n cynhyrfu ni i weddio a galw ar Dduw in unig. Canys gan fod yr holl ogoniant in gyfiawn in eiddo fe, rhaid i nine oherwydd hynny alw ar ei enw bendigedig ef, mal y gallo-mi drwy hynny roddi iddo ei ddyledus ogoniant.
Y mae 'r peth hyn hefyd, yn rhoddi trydydd achos i'n cynhyrfu ni i weddio a galw ar Dduw yn vnig. Canys gan fod yr holl ogoniant yn gyfiawn yn eiddo fe, rhaid i ninne oherwydd hynny alw ar ei enw bendigedig ef, mal y gallo-mi drwy hynny roddi iddo ei ddyledus ogoniant.
(In oes oesoedd.) Weithie y mae 'r gair oes in arwyddoccau amser cant o flynyddoedd: and yr ydys ymma in ei gymmeryd am dragywyddoldeb; oblegit nad yw tragywyddoldeb ddim and amlhâd amseroedd neu oesoedd. Ac mal yr yspysir tragywyddoldeb ymma wrth oesoedd; felly ing-withwyneb i hynny yr ydys weithie wrth tragywyddoldeb in hyspyssu amser hynod a phennodol. Gen. 17.8. Y mae Duw in ado rhoddi i Abraham wlâld Canaan in etifeddiaeth dragwyddol, self, in her o amser. Canys pe bay amgen, fo a fydde hâd ac eppil Abraham etto hid in hyn o amser in meddiannu 'r ⟨p. 122⟩wlâd, yr hyn nid ynt. Ac am hynny, fell y mae in fynych y cwbl wedi osod in lle rhan, self, tragywyddoldeb in lle fwrn o amser: felly yr ydys ymma in gosod rhan in lle 'r cwbl, self, oesoedd am dragwyddoldeb. Y mae hyn hefyd in gwneuthur gwahaniaeth rhwng tywysogion daiarol a'r holl alluawg Jehofa. Y mae iddynt hwy deyrnasoedd, gallu, a gogoniant tros fir o amser: eithr y mae 'r eiddo efe, in unig iddo efe, ac in dragywydd.
(Yn oes oesoedd.) Weithie y mae 'r gair oes yn arwyddoccau amser cant o flynyddoedd: ond yr ydys ymma yn ei gymmeryd am dragywyddoldeb; oblegit nad yw tragywyddoldeb ddim ond amlhâd amseroedd neu oesoedd. Ac mal yr yspysir tragywyddoldeb ymma wrth oesoedd; felly yng-withwyneb i hynny yr ydys weithie wrth tragywyddoldeb yn hyspyssu amser hynod a phennodol. Gen. 17.8. Y mae Duw yn addo rhoddi i Abraham wlâld Canaan yn etifeddiaeth dragwyddol, sef, yn hir o amser. Canys pe bai amgen, fo a fydde hâd ac eppil Abraham etto hyd yn hyn o amser yn meddiannu 'r ⟨p. 122⟩wlâd, yr hyn nid ynt. Ac am hynny, fel y mae yn fynych y cwbl wedi osod yn lle rhan, sef, tragywyddoldeb yn lle fwrn o amser: felly yr ydys ymma yn gosod rhan yn lle 'r cwbl, sef, oesoedd am dragwyddoldeb. Y mae hyn hefyd yn gwneuthur gwahaniaeth rhwng tywysogion daiarol a'r holl alluawg Jehofa. Y mae iddynt hwy deyrnasoedd, gallu, a gogoniant tros fyrr o amser: eithr y mae 'r eiddo efe, yn vnig iddo efe, ac yn dragywydd.