Prydnawnol fyfyrdod.
pp. 163–16618 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Prydnawnol fyfyrdod.
In yr hwyr, pan fyddych in dy baratoi dy hun i gymmeryd dy esmwythder, myfyria ar yr ychydig byngciau hyn.
Yn yr hwyr, pan fyddych yn dy baratoi dy hun i gymmeryd dy esmwythder, myfyria ar yr ychydig byngciau hyn.
1. Gan welled fod dy ddyddiau wedi eu cyfrif, ac un ychwaneg or cyfrif wedi ei dreilio: a'th fod in agofach i'th ddiwedd o ddiwrnod.
1. GAn weled fod dy ddyddiau wedi eu cyfrif, ac vn ychwaneg or cyfrif wedi ei dreilio: a'th fod yn agofach i'th ddiwedd o ddiwrnod.
2. Eistedd i lawr ennyd, cyn i ti fined i'th wely, ac ystyria wrthit dy hun, pa beth a welaist, a glywaist, neu a ddarllennaist y did hwn, a haeddai goffadwriaeth, mwy nac a welsit, a glywsit, neu a wyddit o'r blaen, a gwna y deunydd goreu a cllych o honynt. Eithr in enwedig galw i'th côf, pa bechod a wnaethost y did hwnnw, in erbyn Duw neu ddŷn: a pha ddaioni a adewaist heb wneuthur: ac ymostwng dy hun am y ddeubeth hynny: O thebygi i tidy hun wneuthur dim da, cydnabydda may rhâd Duw oedd hynny, a dyro iddo ef y gogoniant, a chyfrif y did hwnnw in golledig, in yr hwn ni wnaethost ti ddim daioni.
2. Eistedd i lawr ennyd, cyn i ti fyned i'th wely, ac ystyria wrthit dy hun, pa beth a welaist, a glywaist, neu a ddarllennaist y dydd hwn, a haeddai goffadwriaeth, mwy nac a welsit, a glywsit, neu a wyddit o'r blaen, a gwna y deunydd goreu a cllych o honynt. Eithr yn enwedig galw i'th côf, pa bechod a wnaethost y dydd hwnnw, yn erbyn Duw neu ddŷn: a pha ddaioni a adewaist heb wneuthur: ac ymostwng dy hun am y ddeubeth hynny: O thebygi i ti dy hun wneuthur dim da, cydnabydda mai rhâd Duw oedd hynny, a dyro iddo ef y gogoniant, a chyfrif y dydd hwnnw yn golledig, yn yr hwn ni wnaethost ti ddim daioni.