Yr ail math ar ddyledion iw cyflawni ym mhlith y gynnulleidfa Sanctaidd.
pp. 242–24622 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr ail math ar ddyledion iw cyflawni ym mhlith y gynnulleidfa Sanctaidd.
Pan ddechrevo 'r gwasanaeth gad ymmaith dy neillduol fyfyriadau, a gâd i'th calon uno a'r Gweinidog, ac â'r holl Eglwys, o ran eich bod megis in un corph in Ghrist, ac o herwydd bod Duw in Dduw 'r drefn, efe a fin wneuthur pob peth in yr Eglwys o un fryd ag un gallon: Canys y mae gorchwylion yr Eglwys in gyhoeddus ac in gyffredinol. 1 Cor. 13.12. Act. 2.2.46, ac. 4.32. Am hynny ⟨p. 243⟩balchder anwybodus yw i ddŷn dybied fod ei weddiau neillduol ei hun in flrwythlonach na gweddiau cyffredin yr holl Eglwys. Solomon gan hynny sydd in cynghori dŷn i beidio a bod in brysur i draethu dim in yr Eglwys ger bron Duw. Pre. 5.1. Gweddia gan hynny pan fyddo 'r Eglwys in gweddio, cân pan ganont hwythau, ac ym mhob gweithred o fined ar liniau, sefyll, eistedd, a'r cyfryw drefn arferol, a Ceremoniau diniweid (er mwya gochel tramgwydd, a chadw cariad perffaith, a thystiolaeth o'th ufydd-dod) ymosod dy hun at arfer yr Eglwys, yr honey byddych in byw ynddi.