Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Y cyttundeb.
Y Mae'r geirieu hyn in rhan o'r bummed arch: canys hi a osodwyd ar lawr ag ammod neu gondisiwn, self, Maddeu i ninny, megis ac y maddevom ninnau i eraill; ac y mae'r geirieu yma in pwyso ar y rhai sy n mined o'r blaen megis rheswm ohonynt: ac yr is in ei cymmeryd ⟨p. 104⟩oddiwrth gymmhariad neu gyffelybiaeth mal hyn: Os ydy-mi sydd heb ddim and megis a gwreichionen o drugaredd ynom in maddeu i eraill: yna maddeu dithe yr hwn ydwyt megis ffynnon y Trugaredd i ninnau. Mal hyn y mae, Luc. 11. Maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau in maddeu i bawb sydd in ein dyled. Y mae'r Papistiaid in cynnill athrawiaeth wrthwynebus oddiyma: maddeu i ni (meddant hwy) megis y maddevom, gan wneuthyr ein maddevant ni in achos i yrru Duw i faddeu i ninnau o ran cospedigaethau tymmhorol. Eithr rhaid i ni wybod, nad yw ein maddevant ni in achos, and in arwydd y maddeu Duw i ninnau.
Y Mae'r geirieu hyn yn rhan o'r bummed arch: canys hi a osodwyd ar lawr ag ammod neu gondisiwn, sef, Maddeu i nyni, megis ac y maddeuom ninnau i eraill; ac y mae'r geirieu yma yn pwyso ar y rhai sy n myned o'r blaen megis rheswm ohonynt: ac yr ys yn ei cymmeryd ⟨p. 104⟩oddiwrth gymmhariad neu gyffelybiaeth mal hyn: Os ydy-mi sydd heb ddim ond megis a gwreichionen o drugaredd ynom yn maddeu i eraill: yna maddeu dithe yr hwn ydwyt megis ffynnon y Trugaredd i ninnau. Mal hyn y mae, Luc. 11. Maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dyled. Y mae'r Papistiaid yn cynnill athrawiaeth wrthwynebus oddiyma: maddeu i ni (meddant hwy) megis y maddeuom, gan wneuthyr ein maddeuant ni yn achos i yrru Duw i faddeu i ninnau o ran cospedigaethau tymmhorol. Eithr rhaid i ni wybod, nad yw ein maddeuant ni yn achos, ond yn arwydd y maddeu Duw i ninnau.