Text
pp. 72170 passagespart 4 of 5
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb. In ôl cyfraith Nature, ac Athrawiaethau Christ rhaid i mi (gan chwenuych perffeithrwydd) in bûr ufuddhau iddo ef mewn bywyd o ffydd, a gobaith, a chariad, gan garu Duw megis Duw, er ei fwyn ei hun uwchlaw pawb, a charu fy hun megis ei weinidog ef, in enwedig fy enaid, a cheisio ei sancteiddrwydd ai jechydwriaeth, a charu fy ngymydog megis mi fy hun. Rhaid i mi ochelyd pob delw-addoliaeth meddwl neu gorph, ac rhaid i mi addoli Duw in ôl ei Air, trwy ddyseu a myfyrio ar ei air; trwy weddio, rhoddi diolch, a moliant, ac arferu ei Sacrament ef: Rhaid i mi arferu in sanctaidd ei enw sanctaidd ef ac nid ei halogi. Rhaid i mi gadw in sanctaidd did yr Arglwydd, in enwedig mewn cymmundeb gydâ chynulleidfaodd Eglwysig. Rhaid i mi anrhydeddu ac ufyddhau i'm Rhieni, Swyddogion, Bugeiliaid, a Rheolwyr eraill. Rhaid i mi ochelyd niweidio ⟨p. 62⟩fy ngymmodog, mewn meddwl, gair, neu weithred, in ei enaid, ei gorph, ei ddiweirdeb, ei ystâ•, cyfiawnder, neu hawl; eithr gwneuthur iddo ef gymmaint o ddaioni ac a allwyf, a gwneuthur i arall megis ac y mynnwn i arall wneuthur i mi yr hyn sydd wedi ei grynoi i fynu in y deg Gorchymyn. [Duw a lefarodd y geiriau hyn, &c.]
Atteb. Yn ôl cyfraith Natur, ac Athrawiaethau Crist rhaid i mi (gan chwenuych perffeithrwydd) yn bûr ufuddhau iddo ef mewn bywyd o ffydd, a gobaith, a chariad, gan garu Duw megis Duw, er ei fwyn ei hun vwchlaw pawb, a charu fy hun megis ei weinidog ef, yn enwedig fy enaid, a cheisio ei sancteiddrwydd ai jechydwriaeth, a charu fy ngymydog megis mi fy hun. Rhaid i mi ochelyd pob delw-addoliaeth meddwl neu gorph, ac rhaid i mi addoli Duw yn ôl ei Air, trwy ddyseu a myfyrio ar ei air; trwy weddio, rhoddi diolch, a moliant, ac arferu ei Sacrament ef: Rhaid i mi arferu yn sanctaidd ei enw sanctaidd ef ac nid ei halogi. Rhaid i mi gadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd, yn enwedig mewn cymmundeb gydâ chynulleidfaodd Eglwysig. Rhaid i mi anrhydeddu ac ufyddhau i'm Rhieni, Swyddogion, Bugeiliaid, a Rheolwyr eraill. Rhaid i mi ochelyd niweidio ⟨p. 62⟩fy ngymmodog, mewn meddwl, gair, neu weithred, yn ei enaid, ei gorph, ei ddiweirdeb, ei ystâ•, cyfiawnder, neu hawl; eithr gwneuthur iddo ef gymmaint o ddaioni ac a allwyf, a gwneuthur i arall megis ac y mynnwn i arall wneuthur i mi yr hyn sydd wedi ei grynoi i fynu yn y deg Gorchymyn. [Duw a lefarodd y geiriau hyn, &c.]