Y mae Pridoliaethau eraill a *roddir i Dduw ar gyffelybiaeth, ac in amhriodol, in y Scrythyrau sanctaidd, megis (trwy dull ar ymadrodd self Anthropomorphosis, dynawl agweddiad) aelodau din, llygaid clustiau, ffroenau, genau, law, troed, &c. neu synhwyreu a gweithrediadau dŷn, megis gweled, clywed, aroglu, gweithio, rhodio, taro, &c. Neu trwy dull ar ymadrodd a elwir *Anthropopatheia, gwyniau, cynhyrfiadau dŷn, self llawenydd, tristwch, hyfrydwch, pruddder, cariad, cas, &c. Neu mal pan henwer ef trwy *Analogia, in graig, in dŵr, in astalch, ac felly. Arwyddocâd y rheini pob llyfr o ddeongliad ai hyspysa.
Y mae Pridoliaethau eraill a *roddir i Dduw ar gyffelybiaeth, ac yn amhriodol, yn y Scrythyrau sanctaidd, megis (trwy ddull ar ymadrodd sef Anthropomorphosis, dynawl agweddiad) aelodau dyn, llygaid clustiau, ffroenau, genau, llaw, troed, &c. neu synhwyreu a gweithrediadau dŷn, megis gweled, clywed, aroglu, gweithio, rhodio, taro, &c. Neu trwy ddull ar ymadrodd a elwir *Anthropopatheia, gwyniau, cynhyrfiadau dŷn, sef llawenydd, tristwch, hyfrydwch, pruddder, cariad, cas, &c. Neu mal pan henwer ef trwy *Analogia, yn graig, yn dŵr, yn astalch, ac felly. Arwyddocâd y rheini pob llyfr o ddeongliad ai hyspysa.
- *A gyfrifir.
- *O anwydau din.O anwydau dyn.
- *Trwy gyffelybrwydd.