PEN. III. Fôd holl ddŷnol ryw wedi syrthio drwy bechod allan or ystâd ogoneddus y gwnaethpwyd hwy ynddi i gyflwr tra gresynol a thostûrus.
pp. 55–132129 passagespart 2 of 4
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y pechodau ymma in dy gallon di sydd in barod wedi ei harfogi i ymladd in erbyn Duw ar y gair cyntaf, neu yr alarwm cyntaf a ddêl oddiwrth un brofedigaeth; je myfi a anturiwn wirhau a phrofi, fôd y pechodau ymma in annog Duw i ddigio, ac ydynt cynddrwg, onid ydynt in waeth, na phechodau dy fywyd di: oblegid,
Y pechodau ymma yn dy galon di sydd yn barod wedi ei harfogi i ymladd yn erbyn Duw ar y gair cyntaf, neu yr alarwm cyntaf a ddêl oddiwrth un brofedigaeth; ie myfi a anturiwn wirhau a phrofi, fôd y pechodau ymma yn annog Duw i ddigio, ac ydynt cynddrwg, onid ydynt yn waeth, na phechodau dy fywyd di: oblegid,
1. Pechod dy gallon, neu dy naturiaeth, efe ydyw r achos, y bru sydd in cynnwys, in magu, in dwyn allan, in maethu r holl dorllwyth, yr holl dorfeydd ymma o bechodau y rhai ydynt in dy fywyd di, ac am hynny gan ei fôd ef in rhoddi bywyd a bôd ir holl bechodau eraill, efe ydyw yr pechod mwyaf.
1. Pechod dy galon, neu dy naturiaeth, efe ydyw r achos, y bru sydd yn cynnwys, yn magu, yn dwyn allan, yn maethu r holl dorllwyth, yr holl dorfeydd ymma o bechodau y rhai ydynt yn dy fywyd di, ac am hynny gan ei fôd ef yn rhoddi bywyd a bôd ir holl bechodau eraill, efe ydyw yr pechod mwyaf.
2. Mae pechod in helaethach in dy gallon nac in dy fywyd. Nid yw pechod gweithredol and torriad bychan wedi ei wneuthur gan y mor mawr o bechod sydd in dy ⟨p. 76⟩gallon di, lle mae r holl bechod, yr holl wenwyn wedi ymgymmysgu ac ymgyfwrdd ynghyd; Nid yw pechod gweithredol and megis cerpyn wedi ei dory oddiwrth y dwfnder mawr o bechod sydd in dy gallon di; am hynny y dywed Christ, O helaethrwydd y gallon y mae r genau in llefaru, ac allan o drysser drwg y gallon yr ydym ni in dwyn allan bethau drwg,