Prydnawnol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.
pp. 458–46617 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Prydnawnol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.
O Dragwyddol Dduw, a'n carediccaf, a'n hanwylaf Dâd, ninny dy blant anheilwng ydym in ymddarostwng yma wrth droedfaingc dy fawredd di, gan gydnabod o eigion ein calonnau ein bod ni in llwyr anaddas i nessau attat, neu i edrych tuag attat, o herwydd dy fod ti in Dduw o anfeidrol ogoniant, a ninnau ydym bechaduriaid gwael, a ffiaidd, y cyfryw ac â luniwyd, ac â anwyd mewn pechod, a llygredigaeth, ac in ein gweithredoedd â droseddasom dy holl farnedigaethau a'th gyfreithiau, ar feddwl, gair, a gweithred, cyn, i ni dy adnabod, ac er hynny in dywyll ac in oleu, arnom ein hunain, a chyd ag eraill: Ein pechodau neillduol ydynt amlach nac y gellir eu rhifo: Canys pwy a edwyn nifer ei bechodau? And rhaid i ni gyfaddeu hyn in ein herbyn ein hunain, fod ein calonnau ni in lawn balchder, cybydd-dra, a search ir bid hwn, in lawn llîd a digter, ac annioddefgarwch; in ⟨p. 459⟩lawn celwydd, rhagrith, a thwyll: In lawn gwagedd, cyndynrhwydd, ac aflendid: in lawn anghrediniaeth, anymddiried, a search arnom ein hunain: in lawn trachwant, brynti, a phôb ffiaidd ddeisyfiadau: Je y mae ein calonnau in byllau pechod, ac in domennau o bob budreddi.
O Dragwyddol Dduw, a'n carediccaf, a'n hanwylaf Dâd, nyni dy blant anheilwng ydym yn ymddarostwng yma wrth droedfaingc dy fawredd di, gan gydnabod o eigion ein calonnau ein bod ni yn llwyr anaddas i nessau attat, neu i edrych tuag attat, o herwydd dy fod ti yn Dduw o anfeidrol ogoniant, a ninnau ydym bechaduriaid gwael, a ffiaidd, y cyfryw ac â luniwyd, ac â anwyd mewn pechod, a llygredigaeth, ac yn ein gweithredoedd â droseddasom dy holl farnedigaethau a'th gyfreithiau, ar feddwl, gair, a gweithred, cyn, i ni dy adnabod, ac er hynny yn dywyll ac yn oleu, arnom ein hunain, a chyd ag eraill: Ein pechodau neillduol ydynt amlach nac y gellir eu rhifo: Canys pwy a edwyn nifer ei bechodau? Ond rhaid i ni gyfaddeu hyn yn ein herbyn ein hunain, fod ein calonnau ni yn llawn balchder, cybydd-dra, a serch ir byd hwn, yn llawn llîd a digter, ac annioddefgarwch; yn ⟨p. 459⟩llawn celwydd, rhagrith, a thwyll: Yn llawn gwagedd, cyndynrhwydd, ac aflendid: yn llawn anghrediniaeth, anymddiried, a serch arnom ein hunain: yn llawn trachwant, brynti, a phôb ffiaidd ddeisyfiadau: Ie y mae ein calonnau yn byllau pechod, ac yn domennau o bob budreddi.