Agoriad byrr ar weddi 'r Arglwydd.
pp. 1349 passagespart 5 of 9
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A thrachefn, oblegit may gwiliadwyr yr Arglwydd in ei eglwys yw 'r gwenidogion, yr is in ein dwyn ar gof ymma hefyd am ⟨p. 75⟩ddymyno ar Dduw, am fod in ddaionus iddynt hwythau; a gweddio fod eu calonnau wedi eu gosod in hollawl ar adailadu teyrnas Dduw, ar fwrw i lawr teyrnas pechod, a Satan, ac ar gadw eneidieu pobl Dduw: Ac in fwyaf dim oblegit fod y cythrel did a nôs in ymegnio iw gorchfygu in y gwaith ardderchawg hwn, ac iw gwrthwynebu in eu gweinidogaeth, mal y mae iw welled in Zachari. 3.1. Pan safodd Joshua yr Archoffeiriad ger bron angel yr Arglwydd, safodd Satan ar ei ddeheulaw iw wrthwynebu ef. Ac am hynny rhaid i ni weddio trostynt hwy, ar i'r Arglwydd eu cadw, eu hymwisco a'u phwrneisio a donniau grâs-lawn, a'u gwneuthur hwynt hefyd in fugeiliaid ffyddlon. Canys lle ni bo gweledigaeth, methu a wna'r bobl medd Solomon. 2. Thess. 3.1. Bellach frodyr gweddiwch trosom, ar redeg o air yr Arglwydd a chael gogonedd.
A thrachefn, oblegit mai gwiliadwyr yr Arglwydd yn ei eglwys yw 'r gwenidogion, yr ys yn ein dwyn ar gof ymma hefyd am ⟨p. 75⟩ddymyno ar Dduw, am fod yn ddaionus iddynt hwythau; a gweddio fod eu calonnau wedi eu gosod yn hollawl ar adailadu teyrnas Dduw, ar fwrw i lawr teyrnas pechod, a Satan, ac ar gadw eneidieu pobl Dduw: Ac yn fwyaf dim oblegit fod y cythrel ddydd a nôs yn ymegnio iw gorchfygu yn y gwaith ardderchawg hwn, ac iw gwrthwynebu yn eu gweinidogaeth, mal y mae iw weled yn Zachari. 3.1. Pan safodd Josuah yr Archoffeiriad ger bron angel yr Arglwydd, safodd Satan ar ei ddeheulaw iw wrthwynebu ef. Ac am hynny rhaid i ni weddio trostynt hwy, ar i'r Arglwydd eu cadw, eu hymwisco a'u phwrneisio a donniau grâs-lawn, a'u gwneuthur hwynt hefyd yn fugeiliaid ffyddlon. Canys lle ni bo gweledigaeth, methu a wna'r bobl medd Salomon. 2. Thess. 3.1. Bellach frodyr gweddiwch trosom, ar redeg o air yr Arglwydd a chael gogonedd.