Myfyrdod am drueni din heb ei gymmodi a Duw in Ghrist.Myfyrdod am drueni dyn heb ei gymmodi a Duw yn Ghrist.
pp. 31–5364 passagespart 2 of 2
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae yr enaid (wrth welled nad oes dim cyffur iw gael gan y llygaid) in dywedyd wrth y clustiau: O glustiau, y rhai oeddych arfer o gymmeryd difyrrwch wrth wrando ymadroddion mwynbêr, a phrydferthlais cerddwriaeth; a fedrwch chwi glywed dim newydd, na sôn am ronyn o gymmorth i mi? Y Clustiau nail a'i y maent mor fyddarion, ac na chlywant ddim in y bid: a'i y mae'r clyw cyn waned, ac nas geill ddioddef clywed ei gyfeillion anwylaf in siarad ag ef. a pha ham y cai y clustiau hynny glywed dim hanes am lawenydd ym marwolaeth, yr rhai ni allent aros clywed newyddion da yr Efengyl in eu bywyd? ni eill y glust na chymmorth nac ymwared.
Y mae yr enaid (wrth weled nad oes dim cyffur iw gael gan y llygaid) yn dywedyd wrth y clustiau: O glustiau, y rhai oeddych arfer o gymmeryd difyrrwch wrth wrando ymadroddion mwynbêr, a phrydferthlais cerddwriaeth; a fedrwch chwi glywed dim newydd, na sôn am ronyn o gymmorth i mi? Y Clustiau naill a'i y maent mor fyddarion, ac na chlywant ddim yn y byd: a'i y mae'r clyw cyn wanned, ac nas geill ddioddef clywed ei gyfeillion anwylaf yn siarad ag ef. a pha ham y cai y clustiau hynny glywed dim hanes am lawenydd ym marwolaeth, yr rhai ni allent aros clywed newyddion da yr Efengyl yn eu bywyd? ni eill y glust na chymmorth nac ymwared.
Yno y dengys ef ei gwyn wrth y tafod. O dafod, yr hwn â arferit ymffrostio gyd a'r gwychaf, in awr pale y mae dy fawrair, a'th ryfyg cynhennus? yr awrhon jn sing-haledi mwyaf a eli di ddywedyd dim in fy mhlaid? o ni eli di na dwndrio y gelynion yma a'th eiriau bygythiol, nay hyweddu a'th ymadrodd têg? och, och, y mae 'r tafod er is deuddydd ⟨p. 43⟩gwedi colli'r parabl, ni eill in ei angenoctid mwyaf, na galw am ychydig ddiod, na dymuno ar gyfaill dynnu a'i fys y carnboer sydd ym mron ei dagu.
Yno y dengys ef ei gwyn wrth y tafod. O dafod, yr hwn â arferit ymffrostio gyd a'r gwychaf, yn awr pa le y mae dy fawrair, a'th ryfyg cynhennus? yr awrhon jn fyng-haledi mwyaf a elli di ddywedyd dim yn fy mhlaid? o ni elli di na dwndrio y gelynion yma a'th eiriau bygythiol, nai hyweddu a'th ymadrodd têg? och, och, y mae 'r tafod er ys deuddydd ⟨p. 43⟩