GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u Cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u Cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
pp. 1–2551,328 passagespart 28 of 34
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac megis y gwaredodd efe blant yr Israel allan o gaethiwed yr Aipht, felly y gwaredodd efe ninny oddiwrth ein cathiwed ysprydol dan y pechod a'r cythrael a'r bŷd hwn. Am hynny yr ydym ni in rhwymedig iw gymmeryd ef in Dduw ini, ac i fod iddo ef in weision ffyddlon i gadw ei holl orchymmynnion ef.
Ac megis y gwaredodd efe blant yr Israel allan o gaethiwed yr Aipht, felly y gwaredodd efe nyni oddiwrth ein cathiwed ysprydol dan y pechod a'r cythrael a'r bŷd hwn. Am hynny yr ydym ni yn rhwymedig iw gymmeryd ef yn Dduw ini, ac i fod iddo ef yn weision ffyddlon i gadw ei holl orchymmynnion ef.
Gof. 59. Pan yw 'r Gorchymmyn cyntaf?
Gof. 59. Pa vn yw 'r Gorchymmyn cyntaf?
Atteb. Ni bid iti dduwiau eraill ger fy mron i.
Atteb. Ni bydd iti dduwiau eraill ger fy mron i.
Gof. 60. Pa beth yw ergyd ac ystyr y gorchymmyn hwn
Atteb. Bod ini gymmeryd Jehofah y gwir Dduw in Dduw i ni, a bod ini ei addoli a'i ogoneddu ef megis y gwir Dduw, a'n Duw ni.
Atteb. Bod ini gymmeryd Jehofah y gwir Dduw yn Dduw i ni, a bod ini ei addoli a'i ogoneddu ef megis y gwir Dduw, a'n Duw ni.