PEN. VII. In dangos cyflwr gresynol ofnadwy dynion heb yr Ail-enedigaeth ar ol Did farn.PEN. VII. Yn dangos cyflwr gresynol ofnadwy dynion heb yr Ail-enedigaeth ar ol Dydd farn.
pp. 47–5734 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. VII. In dangos cyflwr gresynol ofnadwy dynion heb yr Ail-enedigaeth ar ol Did farn.
PEN. VII. Yn dangos cyflwr gresynol ofnadwy dynion heb yr Ail-enedigaeth ar ol Dydd farn.
Gwedi imi ddangos i chwi gyflwr gresynol rhai heb yr Ail-enedigaeth ar Did farn; mi a âf rhagof i ddangos i chwi eu cyflwr gresynol ar ôl dŷdd y farn: yr hwn in gyffredinol, sydd felldigediccaf, ac am hynny medd ein Jachawdr wrthynt, Ewch oddiwrthif ray melldigedig. Y cyflwr melldigedig hwnnw sydd amlwg.
GWedi imi ddangos i chwi gyflwr gresynol rhai heb yr Ail-enedigaeth ar Ddydd farn; mi a âf rhagof i ddangos i chwi eu cyflwr gresynol ar ôl dŷdd y farn: yr hwn yn gyffredinol, sydd felldigediccaf, ac am hynny medd ein Jachawdr wrthynt, Ewch oddiwrthif rai melldigedig. Y cyflwr melldigedig hwnnw sydd amlwg.
1. Trwy eu bôd heb ddim daioni. 2. Trwy eu bôd tan bob trueni. Yr hyn osodir allan, 1. Trwy amryw gyff 'lybiaethau. 2. Trwy ill yr arhosant ynddo. 3. Trwy ei dragwyddoldeb. Am y rhai hyn mewn trefn.
1. Trwy eu bôd heb ddim daioni. 2. Trwy eu bôd tan bob trueni. Yr hyn osodir allan, 1. Trwy amryw gyff 'lybiaethau. 2. Trwy y lle yr arhosant ynddo. 3. Trwy ei dragwyddoldeb. Am y rhai hyn mewn trefn.
I. Cyflwr gresynol melldigedig rhai heb yr Ail-enedigaeth sy'n sefyll, in bôd heb yr holl ddedwyddwch hwnnw a fwynha y ffyddloniaid ger bron Duw, gar bron pan y mae llawnder o lawenydd, ac ar ddeheulaw pan y mae digrifwch in dragywydd,