YR YMARFER O DDUWIOLDEB: In cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.YR YMARFER O DDUWIOLDEB: Yn cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.
pp. 1–4281,351 passagespart 32 of 34
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cri. Fell y gallwn dy gyfaddef di o flaen fin Nhâd, ac fell y gellit ti ddyscu nad oes dim ymddiried mewn dŷn, a bod jechydwriaeth in deilliaw in unig o'm trugaredd i.
Cri. Fel y gallwn dy gyfaddef di o flaen fyn Nhâd, ac fel y gellit ti ddyscu nad oes dim ymddiried mewn dŷn, a bod iechydwriaeth yn deilliaw yn vnig o'm trugaredd i.
En. Arglwydd pa ham y dygaist di Petr i edifeirwch, trwy ganiad y ceiliog? Luc. 22.60.
Cri. Fell na byddai i neb ddirmygu y moddion a ordeiniwyd iw trod, er gwaeled y byddont iw gweled.
Cri. Fel na byddai i neb ddirmygu y moddion a ordeiniwyd iw troad, er gwaeled y byddont iw gweled.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ganiad y ceiliog droi ac edrych ar Petr? Luc. 22.62.
Cri. Fell y gellych ti wybod, heb gynnorthwy fyngrâs i, na ddichon unrhyw foddion droi pechadur at Dduw, wedi iddo ef unwaith gwympo oddiwrtho ef.
Cri. Fel y gellych ti wybod, heb gynnorthwy fyngrâs i, na ddichon vnrhyw foddion droi pechadur at Dduw, wedi iddo ef vnwaith gwympo oddiwrtho ef.