Myfyrdod am gyflwr Cristion gwedi ei gymmodi a Duw in Ghrist.Myfyrdod am gyflwr Cristion gwedi ei gymmodi a Duw yn Ghrist.
pp. 54–91137 passagespart 3 of 4
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O'r orsedd a'r brawdle yma, y cyfyd Christ a'i holl ogoneddus gynulleidfa o etholedig Angelion, a Seintiau, ac a eiff i fynu in orfoleddus mewn trefn, a llywodraeth i nef y nefoedd, a'r cyfryw hyfrydlais cerddwriaech nefol iw canlyn: Fall y caffo y gán honno, a ddywedodd Dafydd ei gwirio in hollawl: fe aeth Duw i fynu mewn gorfoledd, yr Arglwydd gyd a sŵn yr udcorn, cenwch foliant i Dduw, cenwch foliant i'r Brenin, cenwch foliant: o blegid Duw ydyw brenin yr holl ddaiar, efe biau ymdderchafu mewn mawredd Psal. 47, 5, 6, 7, 9. A'r briodasgerdd honno in Joan: ymlawenhawn, ac ymhyfrydwn, a rhown anrhydded iddo ef, o blegid y mae priodas yr oen in dyfod, a'i wraig ef a ymbaratôdd. Alleluia: Oblegid yr Arglwyd Dduw ollalluog sy'n teyrnasu. Datc. 19, 6, 7.
O'r orsedd a'r brawdle yma, y cyfyd Crist a'i holl ogoneddus gynulleidfa o etholedig Angelion, a Seintiau, ac a eiff i fynu yn orfoleddus mewn trefn, a llywodraeth i nef y nefoedd, a'r cyfryw hyfrydlais cerddwriaech nefol iw canlyn: Fal y caffo y gán honno, a ddywedodd Dafydd ei gwirio yn hollawl: fe aeth Duw i fynu mewn gorfoledd, yr Arglwydd gyd a sŵn yr vdcorn, cenwch foliant i Dduw, cenwch foliant i'r Brenin, cenwch foliant: o blegid Duw ydyw brenin yr holl ddaiar, efe biau ymdderchafu mewn mawredd Psal. 47, 5, 6, 7, 9. A'r briodasgerdd honno yn Ioan: ymlawenhawn, ac ymhyfrydwn, a rhown anrhydded iddo ef, o blegid y mae priodas yr oen yn dyfod, a'i wraig ef a ymbaratôdd. Alleluiah: Oblegid yr Arglwyd Dduw ollalluog sy'n teyrnasu. Datc. 19, 6, 7.
Y trydydd a'r ràdd olaf o fendigedig gyflwr y dŷn adgenediedig in ôl marwolaeth, sydd in dechrau ar ôl adrodd y farn a berry in dragwyddol heb drangc na gorphen.
Y trydydd a'r ràdd olaf o fendigedig gyflwr y dŷn adgenediedig yn ôl marwolaeth, sydd yn dechrau ar ôl adrodd y farn a bery yn dragwyddol heb drangc na gorphen.