GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u Cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u Cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
pp. 1–2551,328 passagespart 15 of 34
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, Fyw, a gwneuthur, a dywedyd, megis rhai a ddisgwiliant eu barnu: Jag. 2.12. Meddwl di 'r hwn wit in llawenychu in nyddiau dy jevengtid, ac in rhodio in ol ford dy gallon dy hun, drwy gyflawni dy chwantau cnawdol, y daw did cyfri. Gwybydd y geilw Duw di ir farn am hyn ôll. Tydi, yr hwn wit in tyngu ac in rhegu, ac in gwneuthur pob math ar ddihirwch; A'i dyma 'r ford i fyw megys un a fernir? O pa fodd yr ymddangosi di o flaen cyfion Farnwr y nefoedd a'r ddaiar, i atteb am yr holl bethau hyn, neu am un o honynt.
Yn gyntaf, Fyw, a gwneuthur, a dywedyd, megis rhai a ddisgwiliant eu barnu: Jag. 2.12. Meddwl di 'r hwn wyt yn llawenychu yn nyddiau dy ieuengtid, ac yn rhodio yn ol ffordd dy galon dy hun, drwy gyflawni dy chwantau cnawdol, y daw dydd cyfri. Gwybydd y geilw Duw di ir farn am hyn ôll. Tydi, yr hwn wyt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn gwneuthur pob math ar ddihirwch; A'i dyma 'r ffordd i fyw megys un a fernir? O pa fodd yr ymddangosi di o flaen cyfion Farnwr y nefoedd a'r ddaiar, i atteb am yr holl bethau hyn, neu am un o honynt.
In ail, Gwnewch Grist eich barnwr in gyfell i chwi ac in eiriolwr drosoch chwi. Och bechaduriaid! mogelwch eseuluso Christ dan eich perygl, neu ei ddigio ef wrth galedwch eich calonnau. Duw a'i gwnaeth ef in Farnwr i chwi, yr hwn trwy eich pechodau yr ydych in ei wneuthur in elyn i chwi: ⟨p. 127⟩Dôs bechadur, Dôs at Grist heddyw; a thor ymmaith dy bechodau trwy edifeirwch, a chymer ei jau ef arnat, ac ymrodda iw Arglwyddiaeth ef.
Yn ail, Gwnewch Grist eich barnwr yn gyfell i chwi ac yn eiriolwr drosoch chwi. Och bechaduriaid! mogelwch eseuluso Crist dan eich perygl, neu ei ddigio ef wrth galedwch eich calonnau. Duw a'i gwnaeth ef yn Farnwr i chwi, yr hwn trwy eich pechodau yr ydych yn ei wneuthur yn elyn i chwi: ⟨p. 127⟩Dôs bechadur, Dôs at Grist heddyw; a thor ymmaith dy bechodau trwy edifeirwch, a chymer ei iau ef arnat, ac ymrodda iw Arglwyddiaeth ef.