Pe jawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid, 1 Cor. 11, 31. Gwedi darfod i ti gael gwybodaeth o echrysder dy bechod, ath fôd felly in wîr evog o honaw. Beth sydd in anghenrhaid i ti (o fy enaid) ⟨p. 25⟩And dy evogfarnu dy hûn, a dywedyd (o fy enaid) pa fodd y gall fôd na wrthodo Duw di hefyd, a chymeryd ymaeth ei yspryd, ei radau, ai Angylion oddiwrthit, ath adel di heb gyfarwyddid ag amddiffynnwr, ir Cythrael, ar bid, ar cnawd ith ymlid. Ystyrria bellach pan a wnei di ai gallel cyscu in ddiofal in y fâth gyflwr; O gan hynny rhag i dialled dy orddiwes, ac er mwyn cael ynill drachefn y rhan oedd gennit or blaen in Nuw, cyrch atto efyn gyflym, ac in ddifrif in y weddi ymma neu 'r cyffelib. O Arglwydd bendigedig, fe ddarfu i mi y did hwn in fynych drwy anghymedroldeb, anghyfiownder, ⟨p. 26⟩ac annuwioldeb ar feddwl, gair, a gweithred dy adel ath wrthod di (fy Nuw) yngwrthwyneb dy sanctaidd orchmynion, je in erbyn cynnorthwyad dy râs iw cadw ai cyflawni, a hyn a wneuthum am bethau gwael, a dibris, in gymaint am bôd yr awrhon in haeddu cael fyngwrthod genit, a chael fy nifeddiannu oath gyfarwyddyd ath ymddiffyn, ac i gael fyngadel am rhoi i fynu i fôd tan ewyllys, a dwylaw gelynion creulon fy enaid, am corph. Er hynny, O Arglwydd daionus, fe fy in wiw gennit oath rhâdfawr diriondeb tu ag attaf, roddi i mi y moddion i allu chwilio, a chael gweled fynghyflwr, ac ⟨p. 27⟩ymholi fy hûn yngylch fymhechodau, tra i gellir i jachau ai trîn a chin darfod i gyhyddiad y Cythrael dynnu dy dialled arnaf oi achôs, seftra i gadewir i mi fyw, a thra y parhatho yr amser cymmeradwy hwn, y did jechydwriaeth hwn: O Arglwydd daionus, cyflawna yr hyn a ddechrevaist ynof, dyro i mi edifeirwch calon, a galar diragrith am yr hyn aeth heibio a bwriad dianwadal, a llownfryd i wellau fy muchedd o hyn allan.
Pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid, 1 Cor. 11, 31. Gwedi darfod i ti gael gwybodaeth o echrysder dy bechod, ath fôd felly yn wîr euog o honaw. Beth sydd yn anghenrhaid i ti (o fy enaid) ⟨p. 25⟩Ond dy euogfarnu dy hûn, a dywedyd (o fy enaid) pa fodd y gall fôd na wrthodo Duw di hefyd, a chymeryd ymaeth ei yspryd, ei radau, ai Angylion oddiwrthit, ath adel di heb gyfarwyddid ag amddiffynnwr, ir Cythrael, ar byd, ar cnawd ith ymlid. Ystyrria bellach pa un a wnei di ai gallel cyscu yn ddiofal yn y fâth gyflwr; O gan hynny rhag i ddialedd dy orddiwes, ac er mwyn cael ynill drachefn y rhan oedd gennit or blaen yn Nuw, cyrch atto efyn gyflym, ac yn ddifrif yn y weddi ymma neu 'r cyffelib. O Arglwydd bendigedig, fe ddarfu i mi y dydd hwn yn fynych drwy anghymedroldeb, anghyfiownder, ⟨p. 26⟩ac annuwioldeb ar feddwl, gair, a gweithred dy adel ath wrthod di (fy Nuw) yngwrthwyneb dy sanctaidd orchmynion, ie yn erbyn cynnorthwyad dy râs iw cadw ai cyflawni, a hyn a wneuthum am bethau gwael, a dibris, yn gymaint am bôd yr awrhon yn haeddu cael fyngwrthod genit, a chael fy nifeddiannu oth gyfarwyddyd ath ymddiffyn, ac i gael fyngadel am rhoi i fynu i fôd tan ewyllys, a dwylaw gelynion creulon fy enaid, am corph. Er hynny, O Arglwydd daionus, fe fy yn wiw gennit oth rhâdfawr diriondeb tu ag attaf, roddi i mi y moddion i allu chwilio, a chael gweled fynghyflwr, ac ⟨p. 27⟩ymholi fy hûn yngylch fymhechodau, tra i gellir i iachau ai trîn a chyn darfod i gyhyddiad y Cythrael dynnu dy ddialedd arnaf oi achôs, seftra i gadewir i mi fyw, a thra y parhatho yr amser cymmeradwy hwn, y dydd iechydwriaeth hwn: O Arglwydd daionus, cyflawna yr hyn a ddechreuaist ynof, dyro i mi edifeirwch calon, a galar diragrith am yr hyn aeth heibio a bwriad dianwadal, a llownfryd i wellau fy muchedd o hyn allan.