Hyfforddiaddau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y did.Hyfforddiaddau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y dydd.
pp. 1–168723 passagespart 6 of 19
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
III. Bid barod i gyflwyno a chyfrannu o'r cyfryw ddoniau a rhadau ac a dderbyniaist. A oes gennit ti ddim mesur cymmhedrol o wybodaeth jachusawl? cyfranna o'th wybodaeth âg eraill, drwy yspysu iddynt ddirgeledigaethau jechydwriaeth. A gefaist di gyssur ar ôl dy drallodion ysprydol? A gefaist di gynhaliaeth dan dy brofiadau a'th demptasiwnau? A gefaist di attebion grasol ith weddiau? A gefaist di fuddugoliaeth ar un trachwant neu lygredigaeth? in rhwydd ac in ewyllysgar cyfranna, a dyro brawf i eraill o'r profiadau a gefaist di o Drugaredd, Gallu, a Daioni Duw in dy amryw gyfyngderau a'th galedfyd, gan eu cyfarwyddo hwynt at y cyfryw ffyrdd a helyntiau, in y rhai y cefaist di dy hun lawyer o fûdd a daioni. Hyn a gawn ni wedi ei orchymmyn in eglur, 1 Pet. 4. 10.
III. Bydd barod i gyflwyno a chyfrannu o'r cyfryw ddoniau a rhadau ac a dderbyniaist. A oes gennit ti ddim mesur cymmhedrol o wybodaeth iachusawl? cyfranna o'th wybodaeth âg eraill, drwy yspysu iddynt ddirgeledigaethau iechydwriaeth. A gefaist di gyssur ar ôl dy drallodion ysprydol? A gefaist di gynhaliaeth dan dy brofiadau a'th demptasiwnau? A gefaist di attebion grasol ith weddiau? A gefaist di fuddugoliaeth ar un trachwant neu lygredigaeth? yn rhwydd ac yn ewyllysgar cyfranna, a dyro brawf i eraill o'r profiadau a gefaist di o Drugaredd, Gallu, a Daioni Duw yn dy amryw gyfyngderau a'th galedfyd, gan eu cyfarwyddo hwynt at y cyfryw ffyrdd a helyntiau, yn y rhai y cefaist di dy hun lawer o fûdd a daioni. Hyn a gawn ni wedi ei orchymmyn yn eglur, 1 Pet. 4. 10.
Yr Hyfforddiadau neilltuol in perthyn i'n hymddygiad mewn cwmpeini drwg, yw y rhai'n.
Yr Hyfforddiadau neilltuol yn perthyn i'n hymddygiad mewn cwmpeini drwg, yw y rhai'n.