Hyfforddiaddau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y did.Hyfforddiaddau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y dydd.
pp. 1–168723 passagespart 5 of 19
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Darfyddo i ti arfer dy ddiwydrwydd eithaf in dy Alwedigaeth gyfreithlon, na flina mo honot dy hnn â meddyliau gofal-ddwys ac anobeithiol ynghylch y digwyddiad a'r ffynniant o'th orchwylion. Mat. 6. 31. Na ofelwch, medd ein Jachawdwr, Gan ddywedyd, beth a fwyttawn, neu, beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn? y gair y gyfieithir, na ofelwch, sydd in y Groec in arwyddocau gofalfryd pryderus, anobeithiol, drwy yr hyn y mae 'r meddwl in aflonydd ynghylch ⟨p. 41⟩y digwyddiad a'r ffynniant o'n poen a'n llafur, yr hyn sydd in anweddus jawn i Gristion.
IV. Darfyddo i ti arfer dy ddiwydrwydd eithaf yn dy Alwedigaeth gyfreithlon, na flina mo honot dy hnn â meddyliau gofal-ddwys ac anobeithiol ynghylch y digwyddiad a'r ffynniant o'th orchwylion. Mat. 6. 31. Na ofelwch, medd ein Iachawdwr, Gan ddywedyd, beth a fwyttawn, neu, beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn? y gair y gyfieithir, na ofelwch, sydd yn y Groec yn arwyddocau gofalfryd pryderus, anobeithiol, drwy yr hyn y mae 'r meddwl yn aflonydd ynghylch ⟨p. 41⟩y digwyddiad a'r ffynniant o'n poen a'n llafur, yr hyn sydd yn anweddus iawn i Gristion.
V. Cyn fynyched ac y derbyniech di fendith oddiwrth Dduw, na anghofia roddi iddo fawl a gogoniant am dano, gan gydnabod, beth bynnag a fu 'r moddion, may efe yw prifachos a phen-awdwr yr holl ddoniau, a'r bendithion hynny yr ydwyt ti in eu mwynhau.
V. Cyn fynyched ac y derbyniech di fendith oddiwrth Dduw, na anghofia roddi iddo fawl a gogoniant am dano, gan gydnabod, beth bynnag a fu 'r moddion, mai efe yw prifachos a phen-awdwr yr holl ddoniau, a'r bendithion hynny yr ydwyt ti yn eu mwynhau.