YR YMARFER O DDUWIOLDEB: In cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.YR YMARFER O DDUWIOLDEB: Yn cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.
pp. 1–4281,351 passagespart 24 of 34
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Os oedd y wraig glwyfus o'r diferlif gwaed, in ofni cyfwrdd ag ymyl ei wisc ef; pa fodd y dylit ti grynu wrth fwyta ei gnawd ac yfed ei oll-jachusawl waed ef?
Os oedd y wraig glwyfus o'r diferlif gwaed, yn ofni cyfwrdd ag ymyl ei wisc ef; pa fodd y dylit ti grynu wrth fwyta ei gnawd ac yfed ei oll-iachusawl waed ef?
Etto os ydwyt ti in dyfod in ostyngedig mewn ffydd, edifeirwch, a chariad perffaith, gan ffieddio dy bechodau a aethant heibio, a bwriadu in ddi-ffuant wellhau dy fuchedd o hyn allan: Na fydded dy bechodau aethant o'r blaen i'th ofni, o ran ni roddir mo honynt sith in dy faich di; ae fe fydd y Sacrament hon in selio i'th enaid ti, fod dy holl bechodau a'r barnedigaethau dyledus iddynt wedi cael eu cyflawn faddau a'u golchi ymmaith in lân trwy waed Christ. Canys nid ordeiniwyd mor Sacrament hon i'r rhai ydynt berffaith, and i gynnorthwyo pechaduriaid edifeiriol i berffeithrwydd: Ni ddaeth Christ i alw y rhai cyfion onid pechaduriaid i ed feirwch, Mat. 9.12, 13. Ac y mae ef in dywedyd, ⟨p. 307⟩nad rhaid ir jach wrth physygwr and i'r clwyfus, y rheini a alwodd Christ, a phan ddevent, y rheini erioed a gynnorthwyai ef. Math. 11.28. Bid yr holl Efengyl in dystiolaeth na ddaeth yr un pechadur erioed at Grist am drugaredd, a mined ymmaith heb ei neges. Trocha di un agwedd dy enaid clwyfus in y ffynnon hon o waed Christ: ac in ddi-ammau in ol ei addewid ef, di a gay dy jachau o'th holl bechodau a'th aflendid. Zach. 13.1. Nid pechaduriaid gan hynny and y rhai sydd in anewyllysgar i edifarhau am eu pechodau, a waherddir oddiwrth y Sacrament hon.
Etto os ydwyt ti yn dyfod yn ostyngedig mewn ffydd, edifeirwch, a chariad perffaith, gan ffieddio dy bechodau a aethant heibio, a bwriadu yn ddi-ffuant wellhau dy fuchedd o hyn allan: Na fydded dy bechodau aethant o'r blaen i'th ofni, o ran ni roddir mo honynt fyth yn dy faich di; ae fe fydd y Sacrament hon yn selio i'th enaid ti, fod dy holl bechodau a'r barnedigaethau dyledus iddynt wedi cael eu cyflawn faddau a'u golchi ymmaith yn lân trwy waed Crist. Canys nid ordeiniwyd mor Sacrament hon i'r rhai ydynt berffaith, ond i gynnorthwyo pechaduriaid edifeiriol i berffeithrwydd: Ni ddaeth Crist i alw y rhai cyfion onid pechaduriaid i ed feirwch,