YR YMARFER O DDUWIOLDEB: In cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.YR YMARFER O DDUWIOLDEB: Yn cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.
pp. 1–4281,351 passagespart 15 of 34
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Quisquis a mat dictis absentum rodere famam, Hanc mensam vetitam noverit esse sibi.
self: Y neb a ddwedo air o'i ben Drwg absen i'w gymydog: Ymadawed ar bwrdd hwn Enllibiwr twn celwyddog.
sef: Y neb a ddwedo air o'i ben Drwg absen i'w gymydog: Ymadawed ar bwrdd hwn Enllibiwr twn celwyddog.
5. Myfyria, mod na fwytai dy Arglwydd Jesus Grist, ddim ymborth un amser, nes iddo in gyntaf fendigo y creaduriaid, a rhoddi diolch i'w Dâd nefol am danynt. Ac in ôl ei swpper diweddaf, yr ydym in darllain iddo ef ganu Psalm. Luc. 9.16. ac 22.19. Mat. 14, 19. ac 26., 21, 30. Canys hyn oedd orchymyn Duw: Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, &c. Deut. 8.10. hynny oedd arfer y Prophwydi: canys ni fwytai y bobl ar eu gwleddoedd, nes i Samuel in gyntaf fendithio eu bwyd. 1 Sam. 9.13. Ac y mae Joel in dywedyd wrth bobl Dduw. Ina y bwyttewch, gan fwytta ac ymddigoni, ac y moliennwch enw 'r Arglwydd eich Duw. Joel. 2.16. Hyn hefyd a ymarferai ⟨p. 186⟩yr Apostolion: Canys yr oedd St Paul in y long in rhoddi diolch cyn bwyd yngŵydd yr holl bobl oedd ynddi Act. 27.35. Gwna gan hynny in y faith sanctaidd weithred, ar ôl y fáth Feistr bendigedig, a dilyn y cyfryw nifer o athrawon teilwng, a'i canlynodd ef, ac a aethant o'th flaen di. Fe alai o herwydd nad arferaist erioed o dalu diolch ar brydian, am hynny y bid cywilydd gennit yr awrhon fined i ddechrau. Na thybia in gywilydd it wneuthur y peth a wnaeth Christ; eithr in hytrach bydded cywilydd gennit ddarfod i ti esceuluso cyhyd y cyfryw ddyledus orchwyl Cristianogawl. Ac os rhoddodd Mâb Duw y fàth ddiolch i'w Dâd nefol am y ciniaw o fara haidd ac ychydig byscod; Joa. 6.9. pa fâth ddiolch a ddilai y fâth din pechadurus ac wit ti, dalu i Dduw am y cyfryw amlder o ddanteithion moethus? pa gynnifer o wir gristianogion, a lawenent gael llenwi eu boliau a'r tammeidiau yr wit ti in eu gwrthod, ac sydd arnynt eisiau yr hyn yr wit ti in ei weddill? mor galled y mae rhai eraill in gweithio am eu hymborth, a thithau in cael dy lyniaeth gwedi ei baratoi it, heb arnat na phoen na gofal? i ddibennu, os oedd delw-addolwyr Paganaidd in eu gwleddoedd, ynarfer o foliannu eu gau dduwiau;