Text
pp. 1–115470 passagespart 11 of 12
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. Oni all Gŵr duwiol ddymuno cyfoeth, gan fôd yr Ysgrythur in fynych in ei alw in fendithion Duw, ⟨p. 100⟩yr hyn y mae efe in ei ado fell gwobr ei wasanaeth?
Cwest. Oni all Gŵr duwiol ddymuno cyfoeth, gan fôd yr Ysgrythur yn fynych yn ei alw yn fendithion Duw, ⟨p. 100⟩yr hyn y mae efe yn ei addo fel gwobr ei wasanaeth?
Atteb. Mae dymuniad cymmhedrol o Gyfoeth, sydd gyfreithlon; a dymuniad anghymmedrol didrefn, sydd anghyfreithlon. Ina mae ein dymuniad ni o Gyfoeth in gymmhedrol, pan na ddymunom ddim and yr hyn sydd angenrheidiol, ac a fedrwn ymfodloni heb hynny, pan welo Duw hynny in dda.
Atteb. Mae dymuniad cymmhedrol o Gyfoeth, sydd gyfreithlon; a dymuniad anghymmedrol didrefn, sydd anghyfreithlon. Yna mae ein dymuniad ni o Gyfoeth yn gymmhedrol, pan na ddymunom ddim ond yr hyn sydd angenrheidiol, ac a fedrwn ymfodloni heb hynny, pan welo Duw hynny yn dda.
Cwest. Beth sydd iw gyfrif in angenrheidiol?
Cwest. Beth sydd iw gyfrif yn angenrheidiol?
Atteb. 1. Yr hyn sydd gymmwys i'r cyflwr ar galwad in yr hwn y gosododd Duw ni.
Atteb. 1. Yr hyn sydd gymmwys i'r cyflwr ar galwad yn yr hwn y gosododd Duw ni.